Sports Direct yn cywiro camsillafiad ‘Cymru’ ar eu hetiau
Mae cwmni Sports Direct wedi cywiro camsillafiad ‘Cymru’ ar eu hetiau.
Fe gafodd y cwmni eu beirniadu ddechrau mis Rhagfyr am sillafu'r gair 'Cymru' fel 'Cyrmu' ar yr hetiau coch, gwyn a gwyrdd yr oedden nhw’n eu gwerthu.
Ni wnaeth y cwmni ymateb i geisiadau am sylw ond fe ddiflannodd yr hetiau anghywir, a oedd yn boblogaidd gyda chefnogwyr pêl-droed yn ystod gemau’r hydref, oddi ar eu gwefan.
Inline Tweet: https://twitter.com/Sianz/status/1863620295975715222
Maen nhw bellach wedi ail-ymddangos ar werth, gyda’r gair ‘Cymru’ wedi ei gywiro a’r Gymraeg mewn safle amlycach ar flaen yr het yn hytrach na’r cefn.
Fel yr hetiau gwreiddiol mae’r rhai newydd yn costio £6 i’w prynu.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Sports Direct i holi am sylw.