'Bywyd hyfryd': Syr Anthony Hopkins yn dathlu 49 mlynedd o sobrwydd
Mae actor bydenwog o Bort Talbot wedi dweud ei fod wedi cael "bywyd hyfryd" wedi iddo benderfynu rhoi'r gorau i alcohol bron i hanner canrif yn ôl.
Dywedodd Syr Anthony Hopkins, 86 oed, sy'n fwyaf enwog am chwarae rhan y llofrudd Hannibal Lecter yn The Silence of the Lambs, wrth ei 5.3 miliwn o ddilynwyr Instagram ddydd Sul ei fod yn dathlu 49 mlynedd o sobrwydd.
"Wel, 49 mlynedd yn ôl heddiw fe wnes i stopio," meddai cyn meimio'r weithred o yfed diod.
"Roeddwn i'n cael cymaint o hwyl, ond yna nes i sylweddoli fy mod mewn trafferth mawr oherwydd ni allwn gofio dim.
"Roeddwn i’n gyrru car, wedi meddwi'n racs. Yna, ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw, nes i sylweddoli fy mod angen help, felly nes i ei gael."
Fe aeth Hopkins, sydd bellach yn byw yng Nghaliffornia, ymlaen i egluro ei fod wedi cysylltu â grŵp cymorth.
"Ffoniais grŵp o bobl fel fi, alcoholig, a dyna ni, sobr," meddai.
"Beth bynnag, dw i wedi cael mwy o hwyl dros y 49 mlynedd yma nag erioed."
'Mynnwch help'
Yn ôl y GIG, mae rhywun yn camddefnyddio alcohol pan maen nhw'n yfed mewn ffordd sy'n niweidiol, neu pan fyddan nhw'n ddibynnol ar alcohol.
Maen nhw'n cynghori oedolion i beidio ag yfed mwy na 14 uned yr wythnos yn rheolaidd.
A hithau bron yn flwyddyn newydd, mae Hopkins yn annog unrhyw un sy'n cael problemau gydag alcohol i gael cymorth.
"Os oes gennych chi broblem, mae cael hwyl yn wych, mae cael diod yn iawn," meddai.
"Ond os ydych chi'n cael problem gydag alcohol, mae help ar gael.
"Nid yw’n beth ofnadwy – mae’n gyflwr os oes gennych alergedd i alcohol. Mynnwch ychydig o help – mae digon o help o gwmpas."
Ychwanegodd yr actor nad yw sobrwydd wedi ei rwystro yn ystod ei fywyd.
"Beth bynnag, es i'n sobr," meddai.
"Mae’n swnio’n air diflas, ond rydw i wedi cael bywyd hyfryd – maen nhw’n dal i fy nghyflogi, maen nhw’n dal i roi swyddi i mi.
"Mi fydda i'n 87 ymhen deuddydd, felly dw i'n dathlu fy mywyd hir – fy mywyd annisgwyl o hir – felly os oes gennych chi broblem, 'da chi'n gwybod lle i fynd.
"Ffoniwch unrhyw grŵp, rhaglen 12 cam, beth bynnag y gallwch chi ei wneud, oherwydd mae'n lladd."