Newyddion S4C

Uned gofal brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd o dan 'bwysau aruthrol'

29/12/2024
Ysbyty Athrofaol Cymru (mick Lobb)

Mae bwrdd iechyd wedi cyhoeddi bod uned gofal brys yn un o'i ysbytai dan "bwysau aruthrol" dydd Sul.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol brynhawn dydd Sul, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro apelio ar bobl nad oedd mewn argyfwng meddygol i gadw draw o'r uned frys yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd y neges: "Mae ein Huned Achosion Brys yn hynod brysur a allai olygu amseroedd aros hirach.

"Dylech ddod os yw hi’n argyfwng yn unig. Os yw eich cyflwr yn fater brys, ond nid yw’n bygwth bywyd, gallwch ffonio 111, y gwasanaeth y tu allan i oriau, a’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty’r Barri.
 
"Fel arall, gallwch ymweld â gwefan GIG 111 Cymru i wirio’ch symptomau a chael cyngor ac arweiniad ar eich anghenion gofal iechyd. 
 
"Gallai eich tîm Gofal Sylfaenol yn y gymuned gefnogi hefyd. Mae gan bob aelod o’r tîm gofal sylfaenol sgiliau ac arbenigedd mewn gwahanol feysydd, sy’n eich galluogi i gael y cymorth iawn, gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol iawn, y tro cyntaf."
 

Mewn fideo ar-lein a rannwyd gan y bwrdd iechyd, dywedodd yr ymgynghorydd meddygaeth frys Dr Clare Davies: "Dyma neges i ddweud ein bod ni heddiw, yn anffodus, o dan bwysau aruthrol yn yr uned frys. 

"Rydyn ni wedi cael llawer o bobl yn dod i'n gweld ni a mae llawer o'r bobl hynny wedi bod yn wael iawn ac angen llawer o sylw. 

"Dyma neges i ofyn am eich help a'ch cefnogaeth i gadw'r uned frys yn ddiogel i bobl sydd wir angen bod yma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.