Newyddion S4C

Apêl o'r newydd am wybodaeth am ddyn sydd ar goll ers 12 mlynedd

Kyle Vaughan

Mae’r heddlu’n apelio o'r newydd am wybodaeth ynglŷn â lleoliad dyn o'r de 12 mlynedd ers iddo ddiflannu.

Roedd Kyle Vaughan yn 24 oed pan ddiflannodd yn Nhrecelyn, Sir Caerffili, ar 30 Rhagfyr 2012.

Cafodd ei gar ei ddarganfod wedi ei ddifrodi ar ôl iddo gael ei adael ar ffordd wledig.

Fe wnaeth ditectifs gyhoeddi ymchwiliad i lofruddiaeth ar y pryd.

Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Andrew Tuck, uwch swyddog ymchwilio i'r achos: “Byddai Kyle yn 36 oed nawr ac mae ein ditectifs yn parhau i weithio ar yr achos hwn, gan ddilyn unrhyw gliwiau ymholi sy’n dod i’r amlwg.

“Mae ei deulu wedi byw gyda chwestiynau heb eu hateb ers cymaint o amser ac rydym yn parhau mewn cysylltiad cyson â nhw wrth i ni barhau â’n hymdrechion i ddarganfod beth ddigwyddodd iddo.

“Rwy’n annog aelodau’r cyhoedd i gysylltu â ni gydag unrhyw wybodaeth sydd ganddyn nhw, waeth pa mor fach ydyw, dewch ymlaen.”

Cafodd y gweithiwr ffatri, oedd yn cael ei adnabod gan ei ffrindiau fel Jabbers, ei weld ddiwethaf yn ei gartref yn Nhrecelyn.

Yn ddiweddarach y noson aeth ar goll, cafwyd hyd i'w gar Peugeot 306 arian wedi'i ddifrodi ar yr A467 rhwng Rhisga a Phont-y-cymer.

Nid oedd yn glir a oedd Mr Vaughan yn gyrru'r cerbyd, ond dywedodd yr heddlu eu bod yn hyderus y byddai wedi gallu cerdded i ffwrdd o'r ddamwain.

Cafodd wyth o bobl eu harestio ar amheuaeth o droseddau mewn cysylltiad â diflaniad Mr Vaughan ond cafodd pob un eu rhyddhau yn ddigyhuddiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.