Newyddion S4C

179 o bobl wedi marw mewn damwain awyren yn Ne Korea

29/12/2024
Damwain awyren yn ne Korea

Mae 179 o bobl wedi marw wedi i awyren geisio glanio mewn maes awyr yn Ne Korea.

Roedd yr hediad Boeing 737-800, sy'n cael ei weithredu gan gwmni Jeju Air, yn teithio o Wlad Thai i Faes Awyr Muan ac yn cludo 181 o deithwyr.

Cafodd dau aelod o’r criw hedfan eu llusgo o weddillion yr awyren ond mae pob teithiwr arall wedi marw, yn ôl gwasanaeth tân De Korea.

Mae lluniau fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos yr awyren yn dod oddi ar y llain lanio ac yn taro wal, ag yna'n mynd ar dân.

Nid yw achos y gwrthdrawiad wedi'i gadarnhau eto.

Ond mae'r gwasanaeth tân yn dweud y gallai adar a thywydd gwael fod ar fai.

Mae'r ddau flwch du oedd ar yr awyren, sydd yn cynnwys gwybodaeth hanfodol am ei thaith, wedi eu darganfod meddai'r awdurdodau.

Mae Syr Keir Starmer wedi cynnig ei “gydymdeimlad dwysaf” i ddioddefwyr y ddamwain awyren a’u teuluoedd, gan ddweud bod ei feddyliau “gyda phobol Gweriniaeth Korea a Gwlad Thai ar yr adeg ofnadwy hon”.

Dywedodd Ysgrifennydd Tramor y DU, David Lammy, ei fod hefyd yn anfon ei "gydymdeimlad dwysaf" i bobl De Korea a Gwlad Thai.

"Rwyf wedi fy nhristau gan y newyddion am y ddamwain awyren yn Ne Korea dros nos," meddai mewn datganiad ar ei gyfrif X bore dydd Sul.

"Rwy'n anfon fy nghydymdeimlad dwysaf i bobl De Korea a Gwlad Thai, a phawb sydd wedi colli anwyliaid."

Llun: Chung Sung-Jun / Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.