Cau un o brif ffyrdd Caerdydd am gyfnod wedi 'digwyddiad difrifol'
29/12/2024
Dywedodd Heddlu De Cymru bod un o brif ffyrdd y brifddinas ar gau am gyfnod fore dydd Sul yn dilyn yr hyn yr oedden nhw'n ei ddisgrifio fel "digwyddiad difrifol".
Roedd ffordd yr A48 ger Ysbyty Athrofaol Cymru ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng yr ysbyty a Tesco.
Cafodd modurwyr eu cynghori i osgoi'r ardal a defnyddio ffyrdd eraill ar y pryd.
Mae'r ffordd wedi ailagor bellach.