'Rili prowd': Medi Harris yn anelu am Los Angeles ar ôl blwyddyn lwyddiannus yn y pwll
'Rili prowd': Medi Harris yn anelu am Los Angeles ar ôl blwyddyn lwyddiannus yn y pwll
Mae’r gwaith caled i gyrraedd Gemau Olympaidd 2028 yn Los Angeles eisoes wedi cychwyn i’r nofwraig o Borthmadog, Medi Harris.
Roedd 2024 yn flwyddyn lwyddiannus yn y pwll i’r Gymraes 22 oed, ar ôl ennill medalau ym Mhencampwriaeth y Byd a nofio yn y Gemau Olympaidd ym Mharis.
Roedd hefyd yn flwyddyn anodd iddi hi a’i theulu, ar ôl iddi golli ei mam, Ellie fis Mawrth.
Wrth edrych yn ôl dros y cyfnod, mae hi’n dweud ei bod yn “falch” o’r ffordd yr oedd wedi perfformio.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Medi: “Dwi’n meddwl oeddwn i’n rili galad ar fy hun pan neshi ddod allan o’r Gemau Olympaidd i ddechrau.
“Ond pan dwi’n edrych yn ôl, dwi’n gweithio ar sut i roid brêc i fy hun efo sut neshi ddelio efo bob dim.
“Dwi’m yn meddwl neshi cweit sylwi ar yr adeg ond oedd mam fi 'di marw ag wyth diwrnod wedyn o’n i’n rasio [ym Mhencampwriaethau Prydain], neshi qualifyio yn y 200m freestyle.
“Pan dwi’n edrych nôl ar huna, dwi’n meddwl dwi’n rili proud o sut oni’n gallu dal fy hun at fy gilydd i actually qualifyio a mynd [i’r Gemau Olympaidd].
Ychwanegodd: “O'n i angen neud huna achos dwi’n cofio siarad efo hi a doedd ‘na no way doeddwn i ddim am neud y tîm. O'n i isho gadael hi wybod bod fi definitely am neud y tîm, so doedd na’m opsiwn arall rili ond neud o.”
Coesau'n 'crynu'
Fe ddechreuodd Medi’r flwyddyn drwy ennill medal efydd ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Doha, Qatar.
Ynghyd â’r pencampwr Olympaidd, Adam Peaty, roedd yr arbenigwraig dull cefn yn rhan o dîm cyfnewid 4x100m medli Prydain a orffennodd yn 3ydd.
Y diwrnod wedyn, fe ddangosodd ei harbenigedd yn y dull rhydd wrth ennill medal arian yn y ras cyfnewid 4x200m.
Eglurodd Medi bod y nerfau yn amlwg yn y ras honno, wrth iddi nofio’r cymal olaf allan o bedwar am y tro cyntaf ar y llwyfan mawr.
“Ia, oedd hwnna’n un o’r petha mwya' yn fy ngyrfa,” meddai. “Dyna oedd y tro cynta' i fi wneud o mewn competition fela.
“Oedd coach fi 'di roid fi ar anchor leg am y tro cynta’, just i bractisho, a dwi just yn cofio crynu. Oedd team mates fi yn deutha fi oeddan nhw’n clywad y bloc yn crynu efo coesau fi!
“Oeddan ni’n dod i mewn yn ail so oni’n gwybod oni’n gorfod cadw ni yna. So oedd o’n rili rewarding pan naethon ni orffen a gael o.”
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1817458655471567334
Ar ôl ei phrofedigaeth, fe wnaeth Medi lwyddo i ennill ei lle yn nhîm Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd, yn y ras 100m dull cefn a’r ras gyfnewid dull rhydd 4x200m.
Roedd torfeydd o 25,000 yn gwylio’r rasio bob dydd yn y La Defense Arena, gyda’r nofwyr o Ffrainc yn derbyn cefnogaeth fyddarol gan eu cydwladwyr.
“Oedda chdi just yn edrych i fyny ag oedd o’n mynd all the way i’r top, oedd o’n nyts,” meddai Medi.
“Dwi’n cofio cerdded allan i heats 100m backstroke fi ag oedd yr hogan ochor fi o Ffrainc. Dwi’n cofio cerddad allan ag o'n i barely yn gallu clywad fy hun yn meddwl achos oedd pawb just yn sgrechian a gweiddi.
“Oedd o mor cŵl. A dwi’m yn siŵr os gawn ni byth arena fel ‘na i nofio eto.”
'Prowd'
Fe orffennodd Medi yn chweched yn ei rhagras yn y 100 medr dull cefn, gan orffen yn 19eg allan o’r holl gystadleuwyr.
Yn y ras 4 x 200m, fe wnaeth Medi nofio'r cymal olaf unwaith eto gan arwain ei thîm i'r trydydd safle yn y rhagras, cyn i’r tîm fynd ymlaen i orffen yn bumed yn y ras derfynol.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1818984079095722327
Wrth adlewyrchu ar ei chanlyniadau ym Mharis, dywedodd: "Even though eshi i’r Gemau Olympaidd, neshi ddim nofio mor da a swni 'di licio neud.
“Ma' athletes, 'da ni mor anodd ar ein hunain so dwi’n meddwl even though doedd nofio fi ddim completely lle swni 'di licio fo bod neu lle dwi’n meddwl sa fo 'di gallu bod, dwi yn proud o sut oni di neud efo bob dim odd yn mynd on o gwmpas fi.”
Ac er iddi anwybyddu'r apiau a'r cyfryngau cymdeithasol ar ei ffôn cyn y Gemau Olympaidd, roedd yn dal i deimlo’r gefnogaeth gan bobl Porthmadog.
“Ar yr adeg, oni 'di logio allan o social medias fi a 'di gofyn i teulu fi i safio bob dim ond dangos i fi wedyn.
“Ond oni dal yn gallu teimlo fo gan ffrindiau fi, dwi just mor ddiolchgar i bawb.
"'Sna’m teimlad fel o i wybod bod 'na gymuned cyfan tu ôl i chdi, ag oedd o just...surreal di’r gair rili. Oedd o just yn rili sbesial i fi.”
Y dyfodol
Mae Medi wedi dychwelyd i fan cychwyn ei hantur nofio dros yr ŵyl, wrth nofio ym mhwll Canolfan Hamdden Porthmadog.
Ond buan wedi troad y flwyddyn, mi fydd yn dychwelyd i’w chartref yn Loughborough, i hyfforddi chwe diwrnod yr wythnos gyda rhai o nofwyr gorau’r wlad.
Ceisio sicrhau ei lle yn nhîm Prydain ar gyfer Pencampwriaethau Nofio’r Byd yn Singapore fis Gorffennaf yw’r nod ar gyfer hanner cynta’r flwyddyn.
Ond ar y gorwel, mae ei ffocws ar gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2026, cyn ceisio cyrraedd ei hail Gemau Olympaidd yn 2028.
“Dwi’n meddwl achos 'da ni’n cychwyn blwyddyn newydd, 'da ni just yn barod i gychwyn gwaith caled ni i gyd rŵan yn barod at yr haf.
“Mae 'na le i mi fynd yn gyflymach, dwi’m yn meddwl sa unrhyw nofiwr yn neud be maen nhw’n neud os fysan nhw ddim yn meddwl huna. So 'da ni i gyd yn gweithio at, even just at y details lleia' i wella bob tro.
“Mae bob dim 'da ni’n neud mewn four year cycle. So mae bob dim 'da ni’n neud yn adio i fyny at yr Olympics, ac mae’r Commonwealth Games yn 2026 i Gymru, ac wedyn LA yn 2028, felly rheina di’r pethau mwyaf.”