Seren Romeo and Juliet, Olivia Hussey, wedi marw'n 73 oed
Mae’r actores Olivia Hussey, sy’n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Juliet yng nghynhyrchiad Franco Zeffirelli o Romeo and Juliet ym 1968, wedi marw yn 73 oed.
Bu farw yn ei chartref yng Nghaliffornia ddydd Gwener wedi’i hamgylchynu gan ei hanwyliaid, yn ôl datganiad ar ei chyfrif Instagram.
Roedd y neges yn rhoi teyrnged i "berson rhyfeddol yr oedd ei chynhesrwydd, ei doethineb a’i charedigrwydd wedi cyffwrdd â bywydau pawb oedd yn ei hadnabod".
Fe aeth ymlaen i ddweud: "Roedd Olivia yn byw bywyd llawn angerdd, cariad ac ymroddiad i'r celfyddydau, ysbrydolrwydd, a charedigrwydd tuag at anifeiliaid.
"Wrth i ni alaru’r golled aruthrol hon, rydyn ni hefyd yn dathlu effaith barhaus Olivia ar ein bywydau a’r diwydiant."
Fe gafodd Hussey ei geni yn Buenos Aires yn yr Ariannin ym 1951, cyn symud i Lundain yn saith oed ac astudio yn ysgol ddrama'r Italia Conti Academy.
Fe enillodd wobr Golden Globe am chwarae rhan Juliet yng nghynhyrchiad Franco Zeffirelli o Romeo and Juliet ym 1968 pan oedd hi'n 15 oed.
Ond fe aeth ymlaen i erlyn Paramount Pictures yn 2022 am gam-drin rhywiol oherwydd golygfa noeth yn y ffilm.
Cafodd yr achos ei wrthod gan farnwr y flwyddyn ganlynol.
Llun: Ron Galella via Wochit