Newyddion S4C

Rhybudd i deithwyr wrth i niwl amharu ar hediadau

Maes awyr Caerdydd yn y niwl

Mae teithwyr i rai o feysydd awyr prysuraf y DU, gan gynnwys Gatwick a Manceinion, yn wynebu amharu ar hediadau oherwydd niwl.

Dywedodd prif ddarparwr rheoli traffig awyr y DU, Nats, fod llif yr hediadau’n cael eu lleihau am resymau diogelwch.

“Oherwydd niwl eang, mae cyfyngiadau traffig awyr dros dro ar waith mewn sawl maes awyr ledled y DU heddiw,” meddai Nats.

Cafodd dwsinau o hediadau o Heathrow hefyd eu gohirio neu eu canslo.

Bu'n rhaid i faes awyr Caerdydd ddanfon awyren i Fryste i lanio prynhawn ddydd Gwener.

Mae teithwyr yn cael eu cynghori i wirio gyda’r cwmni hedfan a’r maes awyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.