Newyddion S4C

Gofyn i ymwelwyr ysbytai yn y de a'r gorllewin i wisgo mygydau

Mygydau

Mae byrddau iechyd ar hyd a lled de a gorllewin Cymru wedi gofyn pobl i wisgo mygydau wrth ymweld â’r ysbyty er mwyn atal y ffliw rhag ymledu. 

Fe gyhoeddodd byrddau iechyd Caerdydd a’r Fro, Aneurin Bevan a Chwm Taf Morgannwg ddydd Gwener y byddant bellach yn gofyn ar bobl i wisgo mygydau unwaith iddyn nhw gyrraedd yr ysbyty. 

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda hefyd wedi dweud y bydd gofyn i ymwelwyr i Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli, Sir Gâr i wisgo mygydau.

Daw wrth i nifer y bobl sy’n dioddef a’r ffliw yng Nghymru gynyddu. 

Mae’r byrddau iechyd wedi gofyn i bobl gadw draw os oes ganddyn nhw unrhyw symptomau tebyg i ffliw neu unrhyw symptomau salwch arall hefyd. 

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg eu bod wedi cymryd y cam gan fod nifer o bobl yn ymweld ag unedau brys eu hysbytai tra’n dioddef gyda’r ffliw. 

Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Nyrsio'r bwrdd Richard Hughes, eu bod yn gorfod gwneud “yr hyn ‘da ni’n gallu er mwyn atal y feirws rhag ymledu.".

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda: “Gofynnir i ymwelwyr wisgo mwgwd cyn cael mynediad i wardiau.

“Mae ffliw tymhorol yn effeithio ar gleifion ar sawl ward ac mae camau atal heintiau yn cael eu cymryd. Gofynnir i ymwelwyr fynychu dim ond os ydynt yn rhydd o unrhyw heintiau ac i olchi dwylo a gwisgo mwgwd wyneb, y gellir eu darparu ar y wardiau."

Mae ymweliadau i’r Uned Asesu feddygol Acíwt hefyd yn cael eu cyfyngu yno. 

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Nyrsio Ysbyty Tywysog Philip Meinir Williams: “Yn y wardiau yr effeithiwyd arnynt, mae’r holl staff yn gwisgo mygydau ac mae ymweliadau’n gyfyngedig i helpu i atal y lledaeniad.” 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.