Newyddion S4C

Llwybr troed poblogaidd ym Mhwllheli yn ail-agor ar ôl difrod tân

27/12/2024
Pont droed Pwllheli

Mae llwybr troed poblogaidd a oedd wedi cau o ganlyniad i losgi bwriadol bellach ar agor i’r cyhoedd eto ym Mhwllheli.

Roedd achos o “ddifrod sylweddol” i'r llwybr troed sy’n cysylltu Lôn Cob Bach a Phont Solomon, wedi i “fandaliaid difeddwl” achosi gwerth £10,000 o ddifrod drwy roi’r llwybr ar dân.

Ar 23 Hydref, roedd rhan fawr o’r bont bren wedi cael ei rhoi ar dân.

Roedd y difrod i’r fframwaith pren yn golygu nad oedd y llwybr yn ddiogel i’r cyhoedd gerdded arni, felly roedd yn rhaid ei chau yn syth.

Dywedodd Maer Pwllheli y Cynghorydd Mike Parry, bod y drosedd yn un sy’n gofyn am “gydymdeimlad yn hytrach na beirniadaeth gan fod gan y troseddwr neu droseddwyr broblemau ac yn amlwg angen help".

Ar y pryd, dywedodd pennaeth cynorthwyol adran amgylchedd Cyngor Gwynedd, Gerwyn Jones, bod y difrod wedi bod yn “drist iawn” i’r bobl leol gan fod y llwybr yn un “poblogaidd ofnadwy”.

Roedd y llwybr troed yn “cynnig cyfle i fwynhau’r byd natur, dafliad carreg o ganol y dref," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn “siomedig” bod ymddygiad ychydig iawn o bobl wedi “atal i eraill fwynhau’r bont".

Mae’n gofyn i’r bobl a oedd wedi ymwneud â’r difrodi i “barchu eiddo cyhoeddus ac i feddwl sut effaith mae eu hymddygiad yn ei gael ar y gymuned leol".

Mae’r cyngor yn dweud eu bod yn “falch” o gyhoeddi bod y llwybr troed wedi gallu agor unwaith eto, a hynny cyn diwedd y flwyddyn.

Yn ôl y cyngor, mae hyn o ddiolch i gefnogaeth Partneriaeth Natur Leol Gwynedd, ac maent yn gofyn i’r cyhoedd i roi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru am unrhyw ddifrod neu fandaliaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.