Ymchwiliad yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yng Nghaerdydd
27/12/2024
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio ar ôl i fenyw 79 oed farw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yng Nghaerdydd.
Dywedodd y llu fod y gwrthdrawiad un cerbyd wedi digwydd ar Ffordd Dumballs ym Mae Caerdydd am tua 13:40 ar 19 Rhagfyr.
Yn dilyn y gwrthdrawiad fe gludwyd gyrrwr y Mini Cooper Gwyn, menyw 79 oed, i Ysbyty Athrofaol Cymru lle bu farw o’i hanafiadau ar Noswyl Nadolig.
Mae'r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy nodi cyfeirnod 2400418660.