Olew Palmwydd: Prifysgol Aberystwyth yn creu cynnyrch amgen newydd
Mae gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth wedi dyfeisio ffordd newydd o greu cynnyrch a all ddisodli olew palmwydd fel cynhwysyn mewn bwyd a cholur.
Yn ôl gwyddonwyr mae cynaeafu olew palmwydd yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd, gan ddinistrio coedwigoedd trofannol a chynefinoedd naturiol, ac mae disgwyl i’r galw amdano gynyddu 40% yn y degawd nesaf.
Mae academyddion Prifysgol Aberystwyth wedi cydweithio â’r cwmni Sun Bear Biofuture i ddarganfod ffordd o eplesu burum er mwyn cynhyrchu olew sydd â nodweddion tebyg i olew palmwydd, ond heb yr effeithiau negyddol.
Nod y tîm o wyddonwyr yw lleihau dibyniaeth ar olew palmwydd mewn colur, bwyd a biodanwydd, drwy ddefnyddio technegau eplesu a bioleg foleciwlaidd flaengar.
Gallai’r cynnyrch newydd hwn gymryd lle olew palmwydd mewn ystod o nwyddau fel cwcis, balm gwefusau ac eli.
Dywedodd Dr David Warren-Walker o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Rydym ni’n hynod o falch o allu cyfrannu at y prosiect pwysig hwn. Mae datblygu cynnyrch sy’n gallu cymryd lle olew palmwydd yn hanfodol i gynefinoedd a’r amgylchedd yn fyd-eang.”
Ychwanegodd: “Mae'r cyfle i gydweithio â chwmni newydd i ddatblygu dewisiadau eplesu manwl gywir yn gyflym yn hanfodol i sicrhau cynaliadwyedd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.”
“Rwy’n mawr obeithio y bydd ein gwaith yn gwneud cyfraniad gwirioneddol at gyflymu y symud i ffwrdd o olew palmwydd.”
Gwarchod cynefinoedd
Mae’r olew newydd wedi cael ei brofi ar lefel beilot gan ddefnyddio arbenigedd ac offer Campws ArloesiAber Prifysgol Aberystwyth.
Maen nhw’n gweithio i ddatblygu'r cynnyrch ar raddfa fwy ar gyfer marchnadoedd colur a bwyd, ac yn anelu i gynhyrchu ar lefel ddiwydiannol yn 2026.
Dywedodd Ben Williams, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Technoleg Sun Bear Future, cwmni newydd sydd wedi’i leoli yn y DU:
“Er bod olew palmwydd yn isel o ran cost i’w gynhyrchu, yr anfantais o’i dyfu yw bod y cnwd, yn fyd-eang, yn gyfrifol am 500 miliwn tunnell o CO2 sy’n cael ei ryddhau’n flynyddol o ganlyniad i ddinistrio coedwigoedd glaw er mwyn tyfu coed palmwydd.”
“Mae’r datgoedwigo hwn yn cael effaith enfawr ar ddadleoli cynefinoedd a rhywogaethau coedwigoedd glaw prin, fel arth yr haul, enw ein cwmni.”
“Rydym ni’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i edrych ar sut i gynhyrchu hanfodion bob dydd mewn ffordd sydd â’r potensial i ddargyfeirio prosesau gweithgynhyrchu oddi wrth y ddibyniaeth bresennol ar olew palmwydd a diogelu rhywogaethau sydd mewn perygl.”
Ychwanegodd Williams: “Mae gan ein dewis amgen i olew palmwydd ôl troed carbon is a llai o ddibyniaeth ar dir; ar hyn o bryd rydym ni’n treialu gwahanol brosesau eplesu er mwyn perffeithio datblygu’r cynnyrch.”
Mae’r ymchwil hwn yn rhan o raglen ‘Solutions Catalyst’ ArloesiAber, a gefnogir gan Lywodraeth y DU a chynllun Grant Arloesi Campws Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biolegol a Biotechnoleg y UKRI (BBSRC).
Nod y rhaglen yw i roi hwb i arloesedd drwy gynorthwyo cwmnïau i fanteisio ar gyfleusterau ymchwil arbenigol Prifysgol Aberystwyth, a chyfleusterau blaenllaw ArloesiAber.
Llun: Wochit