Nasa’n creu hanes gyda'r hediad llong ofod agosaf erioed at yr haul
Mae llong ofod NASA wedi creu hanes trwy oroesi'r hediad agosaf erioed at yr haul.
Dywedodd gwyddonwyr Nasa bod eu llong ofod Parker Solar Probe yn ddiogel ac yn gweithredu fel arfer ar ôl bod allan o gyswllt ers sawl diwrnod.
Mae disgwyl i’r llong ofod anfon data oddi yno ddydd Calan.
Mae'r llong ofod wedi teithio 3.8 miliwn o filltiroedd (6.1 miliwn km) o wyneb yr haul gan ddioddef tymereddau o hyd at 1,800F (980C).
Nod y daith yw dysgu mwy am sut mae’r haul yn gweithredu ac asesu y digwyddiadau yn ymwneud â’r tywydd yn y gofod a all effeithio ar fywyd ar y ddaear.
Fe ddechreuodd y llong ofod ar ei thaith yn 2018 ac anelu at ganol ein cysawd.
Roedd eisoes wedi hedfan heibio’r haul 21 o weithiau gan deithio'n agosach bob tro cyn yr hediad hanesyddol diwrnod cyn y Nadolig.
Llun: Nasa