Newyddion S4C

Bro Morgannwg: Car menyw fu farw ymhlith tri eraill a gafodd eu rhoi ar dân

Dinas Powys

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i bedwar car gael eu rhoi ar dân mewn digwyddiad “anarferol iawn” ym Mro Morgannwg.

Roedd car oedd yn berchen i fenyw fu farw ddeuddydd ynghynt ymhlith y rheiny a gafodd eu targedu yn Ninas Powys.

Y gred yw bod y ceir wedi cael eu rhoi ar dân ddydd Sadwrn yn ystod oriau mân y bore rhwng 01:50 a 02:10. 

Cafodd tri o geir eu rhoi ar dân yn Ninas Powys, gan gynnwys dau ar Ffordd Stacey a’r llall ar Ffordd Cross Common.

Cafodd un car ei roi ar dân ar Ffordd Sant Andras yng Ngwenfô yn ogystal. 

Dywedodd y Ditectif Ringyll Dave Nugent o Heddlu De Cymru bod dioddef trosedd o’r fath yn “gostus” ac yn “peri gofid".

"Mae digwyddiad o’r fath – yn enwedig yn ystod cyfnod y Nadolig ac i’r gŵr sy’n dal i alaru colled ei wraig – yn arbennig o ddinistriol,” meddai. 

Dywedodd bod y digwyddiad yn “anarferol iawn” o ystyried yr ardal ac mae’r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all helpu eu hymchwiliad i gysylltu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400420523.

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.