Newyddion S4C

Difrod i safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru oherwydd tywydd garw

Difrod Gerddi Bodnant

Mae’r stormydd a’r llifogydd diweddar wedi difrodi rhai o safleoedd mwyaf gwerthfawr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.

Dywedodd yr ymddiriedolaeth mae nifer o goed hynafol wedi disgyn ar ei hystadau a bod y llifogydd wedi difrodi adeiladau a gerddi. 

Mae Gerddi Bodnant yn Nyffryn Conwy ymhlith y safleoedd sydd wedi dioddef yn ystod Storm Darragh yn gynharach yn y mis.

Roedd sgil effeithiau eraill ar gynefinoedd yn dilyn y tywydd medd yr ymddiriedolaeth. Roedd coed wedi cadw eu dail ymhell i fis Tachwedd oherwydd y diffyg rhew a digon o ddŵr, tra bod rhai coed ynn wedi gallu brwydro yn erbyn clefyd gwywiad yr onnen, meddai’r ymddiriedolaeth.

Cafodd mamaliaid bach ac adar ysglyfaethus flwyddyn dda yn gyffredinol ar draws y DU.

Roedd hydref oer a llaith heb unrhyw rew ​​wedi helpu ffyngau glaswelltir mewn nifer o leoedd.

Yng Nghymru roedd cylfinirod ar Ystâd Ysbyty yn Nyffryn Conwy wedi cael trafferth gyda chywion yn marw oherwydd y tywydd garw neu newyn.

Gwelwyd madfallod dŵr cribog yn Sir Benfro yn cynnal arddangosfeydd paru ym mis Ionawr, ddeufis yn gynnar, oherwydd y gaeaf mwyn y llynedd a achosodd hefyd ffyniant ym mhoblogaethau gwlithod a malwod.

Dywedodd pennaeth coed a choetiroedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, John Deakin, fod coed hŷn yn edrych yn llawer iachach eleni oherwydd lefelau uchel o law, tra bod coedwigoedd glaw tymherus yng ngofal yr elusen “yn ymddangos yn llawer mwy gwyrdd ac yn fyw”.

Dywedodd: “Roedd yna liw hydref da, gyda choed yn cadw eu dail ymhell i fis Tachwedd oherwydd y diffyg rhew a digon o ddŵr."

Llun: Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.