‘Hudolus’: Cwpwl yn dyweddïo yn ystod digwyddiad nofio Gŵyl San Steffan
Daeth 1,150 o nofwyr at ei gilydd i fwynhau digwyddiad Gŵyl San Steffan yn Ninbych-y-pysgod ddydd Iau.
Ond roedd yn ddigwyddiad mwy arbennig na’r arfer i un cwpwl a wnaeth ddyweddïo ar y traeth yn Sir Benfro.
Gyda channoedd o ymdrochwyr o’u cwmpas fe aeth Philip Frith, 34, ar un ben glin ar y tywod a gofyn i Victoria Tansey, 37, ei briodi.
Roedd wedi cynllunio yn ofalus gan sicrhau bod cân arbennig y cwpl, Ocean Eyes gan Billie Eilish, yn chwarae ar y traeth ar y pryd.
Roedd Victoria Tansey, sy’n wreiddiol o Aberdaugleddau, wedi gweithio fel dawnsiwr proffesiynol, gan ymddangos ar The X Factor, Britain’s Got Talent a Pineapple Dance Studio: Survival Of The Fittest.
Er ei bod bellach yn byw yn Guildford, Surrey, gyda Philip Frith sy’n hyfforddwr jiu-jitsu, mae hi bob amser wedi bod wrth ei bodd yn dychwelyd i'w gwreiddiau yn Sir Benfro.
“Pan wnaethon ni gyfarfod gyntaf, roedd Victoria wrth ei bodd yn dangos Sir Benfro i fi,” meddai Philip.
“Rydyn ni wedi gwneud y daith mor aml ag y byddai gwaith yn caniatáu i ni, i ymweld â'i theulu, mynd i’r traeth a mwynhau'r golygfeydd.
“Rwyf wrth fy modd yn nofio yn y môr, rwy'n credu ei fod mor werth chweil i'ch corff a'ch meddwl, ond doedd Victoria erioed wedi mwynhau’r oerfel.
“Felly, ar ein Nadolig cyntaf gyda’n gilydd fel cwpl, fe wnaeth Victoria fy synnu wrth fynd â fi i Ddinbych-y-pysgod ar gyfer digwyddiad nofio Gŵyl San Steffan - a dweud y gwir mae’n un o fy atgofion mwyaf hudolus o ddechrau ein perthynas.
“Roeddwn i eisiau dychwelyd y ffafr iddi a’i synnu drwy gynnig ei phriodi yn ystod y nofio eleni.”
Mae’r digwyddiad wedi codi cannoedd o filoedd o bunnoedd i elusennau ac achosion da yn ei hanes 52 mlynedd, a bydd digwyddiad eleni o fudd i RNLI Dinbych-y-pysgod.
Dywedodd maer y dref, Dai Morgan: “Mae’n wych gweld cymaint o bobl o’r fan hon, ac at achos mor dda.
“Rwyf wrth fy modd i lawr ar y traeth ar Ŵyl San Steffan. Mae nofio yn draddodiad mor wych.”