Newyddion S4C

Cynllun dadleuol i symud llyfrgell tref Aberaeron erbyn canol 2025

Llyfrgell Aberaeron

Bydd cynllun dadleuol i symud llyfrgell tref Aberaeron wedi ei gwblhau erbyn canol 2025, yn ôl llefarydd ar ran y cyngor.

Penderfynodd cynghorwyr y dref ym mis Hydref i symud y llyfrgell o ganol y dref i swyddfeydd y cyngor ym Mhenmorfa ar ymyl y dref.

Daw hyn er i tua 900 o bobl wrthwynebu’r cam fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus, y rhan fwyaf ar sail y pellter o siopau, gwasanaethau a thai canol y dref.

Dywedodd y cyngor fod angen iddyn nhw arbed £70,000 o’u cyllid ar wasanaethau llyfrgelloedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Mae proses dendro ar waith ar hyn o bryd i gontractwyr adeiladu gwblhau’r gwaith, gyda’r dyddiad cychwyn disgwyliedig ym mis Chwefror a’r dyddiad gorffen ym mis Mehefin 2025.

“Bydd y llyfrgell newydd yn fwy a bydd ganddi gasgliad gwell o lyfrau gyda chasgliad plant llawer gwell. Bydd ffocws newydd ar les a llawer mwy o le ar gyfer gweithgareddau, astudio a llu o adnoddau digidol newydd.”

Image
Y llyfrgell newydd arfaethedig ym Mhenmorfa
Y llyfrgell newydd arfaethedig ym Mhenmorfa

Dywedodd Cynghorydd Aberaeron ac Aberarth, Elizabeth Evans yn y cyfarfod ym mis Hydref bod pobl yn “unedig” yn erbyn y cynllun. 

“Mae hyder y cyhoedd ar ei liniau ac mae’n hawdd gweld pam,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.