Newyddion S4C

Miloedd i nofio yn y môr yn Sir Benfro i groesawu'r flwyddyn newydd

29/12/2024
Nofio yn y môr

Mae disgwyl i filoedd nofio yn y môr mewn gwisg ffansi i groesawu'r flwyddyn newydd yn Sir Benfro eto eleni, ar "ddiwrnod gorau'r flwyddyn."

Eleni fe fydd hi'n 39 mlynedd ers y digwyddiad nofio yn y môr cyntaf yn Llanusyllt er mwyn codi arian i elusennau.

Bellach dyma'r digwyddiad nofio yn y môr mwyaf yn y Deyrnas Unedig ac mae'r digwyddiad wedi codi bron i £800,000 i elusennau gwahanol ar hyd y blynyddoedd.

Mae nofwyr o Gymru a thu hwnt yn cymryd rhan yn y digwyddiad ac yn gwisgo mewn amryw o wisgoedd ffansi.

“Ma’ fe’n arbennig iawn, ma’r swim ‘di bod yn mynd 'mlaen am 39 o flynyddoedd," meddai un o'r trefnwyr, Brynoy Rees wrth Newyddion S4C.

"Roedd e wedi dechrau gyda 10 o ddynion sy’n byw yn y pentref. Mae wedi tyfu ar draws y blynyddoedd achos bod e'n gymaint o hwyl.

"Ma’ pawb yn joio mynd yn y môr a ma' fe i gyd am achos da. Ma’ pawb yn dod at ei gilydd i gael hwyl a sbri ac i godi arian."

Ychwanegodd Miss Rees: “Ma’ pobl o bob oedran yn mwynhau, roedd rhywun yn ei 80au y llynedd.

"Mae’n ddigwyddiad hwyl i deuluoedd ac mae pawb yn dod lawr ac roedd record y llynedd o ran nifer y bobl, ac mae’r dorf yn fawr hefyd sydd yn ei wneud yn fwy sbesial."

Image
Nofio yn y môr
Llun: Gareth Davies

'Gwaith trwy gydol y flwyddyn'

Cadeirydd y digwyddiad yw Chris Williams, ac iddo ef a'r pwyllgor o 12 person sydd yn trefnu, nid oes llawer o saib ar y gwaith.

O sicrhau noddwyr, dylunio crysau-t a pharatoi deunydd i'r cyfryngau cymdeithasol, mae'r gwaith paratoi yn cychwyn bythefnos ar ôl i ddigwyddiad y flwyddyn cynt ddod i ben.

"Rydym yn cynnal cyfarfod pythefnos ar ôl y digwyddiad, ac mae gennym ni gyd rolau gwahanol.

"Wedi hynny rydym yn ailgychwyn ar bethau ym mis Chwefror ac mae'n parhau wedyn trwy gydol o flwyddyn.

"Mae'n broses hir ac mae llawer o waith i wneud, cyfarfodydd gyda'r cyngor, yr heddlu a'r frigâd tân.

"Dydyn ni ddim yn gallu cynnal digwyddiad fel hyn hebddyn nhw, ein cymuned nag ein gwirfoddolwyr."

Er gwaethaf y gwaith caled, mae gweld miloedd yn y môr a hyd yn oed mwy yn gwylio yn rhoi gwên ar ei wyneb.

"Mae'r digwyddiad yn mynd yn fwy blwyddyn ar ôl blwyddyn a bellach mae gennym gerddoriaeth a dawnswyr hefyd, mae'n ddigwyddiad enfawr.

"Heb amheuaeth mae'n un o ddiwrnodau mwyaf y flwyddyn. Roedd y dref yn arfer bod yn ddistaw iawn ond nawr mae'n fywiog iawn.

Image
Nofio yn y môr
Llun: Gareth Davies

Poblogrwydd nofio yn y môr

Yn ddiweddar mae mwy a mwy o bobl wedi dechrau nofio yn y môr.

Mae'r cynnydd hwnnw i'w weld yn y digwyddiad yn Llanusyllt hefyd, gyda dros 2,500 yn cymryd rhan y llynedd - y nifer fwyaf erioed.

“Yn sicr mae nofio agored yn rhywbeth sydd yn dod yn fwy poblogaidd, ac i’r rhai sydd yn ansicr a heb drial o’r blaen mae’r New Years Day swim yn Saundersfoot yn gyfle da i arbrofi am y tro cyntaf," meddai Bryony.

"Mae’n lle i ddod i neud e gyd, a llawer o bobl a bod y wybodaeth am sut i baratoi a bod y cyfyngiadau diogelwch mewn lle."

Image
Nofio yn y môr
Llun: Gareth Davies

Lluniau: Gareth Davies

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.