Cwmni trenau sy’n gwasanaethu’r gogledd oedd y gwaethaf am ganslo yn 2024
Cwmni trenau sy’n gwasanaethu gogledd Cymru oedd y gwaethaf yn y DU am ganslo gwasanaethau eleni.
Roedd Avanti West Coast, sy’n rhedeg gwasanaethau rhwng Caergybi a Bangor a gogledd-orllewin Lloegr wedi canslo 7.8% o’u gwasanaethau yn 2024.
CrossCountry (7.4%), Northern (5.7%) a Govia Thameslink Railway (5.2%) oedd yn y 3ydd, 4ydd a’r 5ed safle o ran canslo gwasanaethau.
Cafodd y ffigurau eu casglu gan y Press Association hyd at y 9fed o Dachwedd.
Dywedodd un arbenigwr ar y diwydiant ei fod yn disgwyl y byddai nifer y gwasanaethau oedd yn cael eu canslo yn codi yn y dyfodol.
Dywedodd y newyddiadurwr rheilffyrdd Tony Miles, o gylchgrawn Modern Railways mai problemau staffio oedd y tu cefn i’r ffigurau.
Roedd rhai gyrwyr trenau wedi dewis peidio gweithio shifftiau ychwanegol ers i'r Llywodraeth Lafur gynnig cytundeb cyflog aml-flwyddyn i'r undeb Aslef heb newidiadau i delerau ac amodau.
Roedd yn rhagweld y bydd ffigurau canslo “yn debygol o waethygu” oherwydd bod gyrwyr yn ymddeol yn gyflymach nag y maent yn cael eu recriwtio.
Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am isadeiledd rheilffordd Cymru a chytundeb Avanti West Coast.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth y DU bod “teithwyr yn cael eu siomi gan wasanaethau gwael”.
“Dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i gyflawni’r adnewyddiad mwyaf o’r rheilffyrdd mewn cenhedlaeth,” medden nhw.
“Bydd dod â gwasanaethau yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus yn rhoi teithwyr wrth galon popeth a wnawn ac yn caniatáu i ni ail-fuddsoddi yn ein rheilffyrdd.
“Rydym wedi bod yn glir na fyddwn yn goddef perfformiad gwael a byddwn yn parhau i ddwyn yr holl weithredwyr gwasanaethau trên i gyfrif, waeth beth fo’u perchnogaeth.”