Newyddion S4C

Lansio ymchwiliad i lofruddiaeth ddwbl ar ôl i ddwy ddynes farw ar ddydd Nadolig

26/12/2024
Santa Cruz Avenue Milton Keynes

Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi i ddwy ddynes, 38 a 24 oed, farw a dyn a bachgen yn ei arddegau ddioddef anafiadau difrifol ar ddydd Nadolig.

Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i floc o fflatiau yn Santa Cruz Avenue, Bletchley, Milton Keynes ychydig wedi 18.30.

Cafodd dyn 49 oed o Milton Keynes ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a cheisio llofruddio ac mae’n parhau yn y ddalfa meddai Heddlu Thames Valley.

Bu farw’r ddwy ddynes yn y fan a’r lle, tra bod y dyn a’r bachgen yn ei arddegau mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Cafodd ci a anafwyd yn y digwyddiad hefyd ei gludo at filfeddygon ond nid oedd wedi goroesi.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, Ditectif Brif Arolygydd Stuart Brangwin: “Yn gyntaf hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i deuluoedd y merched sydd wedi marw’n drasig yn y digwyddiad ysgytwol hwn.

“Rydym wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth ddwbl.

"Mae unigolyn wedi cael ei arestio ac nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn.

“Bydd aelodau’r cyhoedd yn gweld presenoldeb heddlu mawr yn yr ardal tra bod ein hymchwiliad yn cael ei gynnal."

Llun: Harry Stedman/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.