'Y diweddglo perffaith': Yr ymateb i bennod olaf Gavin and Stacey
Rhybudd 'sbwylwyr': Mae'r erthygl hon yn cynnwys digwyddiadau ym mhennod olaf Gavin and Stacey ddydd Nadolig.
17 mlynedd ers pennod gyntaf Gavin and Stacey fe ddaeth y gyfres boblogaidd i ben gyda'r bennod olaf wedi ei ddarlledu ar ddydd Nadolig.
Dyma'r tro olaf i Nessa, Smithy, Gavin, Stacey, Bryn a llu o gymeriadau poblogaidd eraill gael eu gweld ar y sgrin fach ac roedd llawer o gyffro ar gyfer y bennod.
Cafodd y rhaglen awr a hanner ei gwylio gan 12.3m o bobl ar y BBC, y gynulleidfa fwyaf ar ddydd Nadolig ers 2008.
Roedd drama, dyfalu a dagrau wrth i nifer aros i weld os fyddai Smithy (James Corden) yn priodi Sonia (Laura Aikman) neu yn dilyn ei galon a phriodi Nessa (Ruth Jones).
Ar ddiwrnod y briodas roedd Gavin (Mathew Horne) wedi dweud wrth Smithy o flaen pawb ei fod yn meddwl ei fod yn gwneud camgymeriad, a arweiniodd at weinidog y gwasanaeth y gofyn i bobl sefyll os roedden nhw yn meddwl na ddylai Smithy a Sonia briodi.
Un o uchafbwyntiau emosiynol y bennod oedd Smithy yn gofyn am farn Mick (Larry Lamb) cyn gwneud y penderfyniad i briodi ai peidio.
Roedd yr olygfa yn fwy pwerus gan fod Mick wedi disgrifio Smithy fel ail fab iddo yn ei barti hydd (stag do) yn gynharach yn yr un bennod.
Inline Tweet: https://twitter.com/JoeySadler_/status/1872059886730891349
Dywedodd un person arall: "Os nad oeddech chi'n agos at ddagrau pan arhosodd Smithy am benderfyniad Mick yn y briodas honno, dydw i ddim yn gwybod sut!
"Yr olygfa orau erioed yn Gavin and Stacey."
Chwerthin
Roedd digon o chwerthin yn gymysg â'r dagrau hefyd a chymeriad Uncle Bryn (Rob Brydon) oedd, fel arfer, wedi rhoi gwên ar wynebau pawb.
Ymysg ei uchafbwyntiau oedd ei ymateb i berthynas Gwen (Melanie Walters) a Dave Coaches (Steffan Rhodri), wrth iddo ruthro i'w thŷ yn ei wisg seiclo ar ôl i Stacey ei decstio am y berthynas.
Roedd hanes stori'r trip pysgota ddrwg-enwog a fin cael ei ddateglu - cyn i omled oedd yn llosgi gynnau'r larwm dân.
Inline Tweet: https://twitter.com/joshpearson180/status/1872036497224085515
Roedd rhagor o ddoniolwch ar barti hydd Smithy pan benderfynodd ei ffrindiau i gyd wisgo crysau West Ham, y tîm mae'n ei gefnogi.
Ond fe benderfynodd Uncle Bryn wisgo'r cit cyfan, gan gynnwys siorts a sanau hir, yn hytrach na gwisgo pâr o jîns fel pawb arall.
Nessa a Smithy yn priodi?
Ond diweddglo y bennod a adawodd y mwyafrif o wylwyr â theimlad llon yn eu calonnau ar ddydd Nadolig.
Y cwestiwn oedd ar wefusau pawb cyn y bennod olaf oedd, a fyddai Nessa a Smithy yn priodi?
Cyn diwrnod priodas Smithy a Sonia roedd Nessa wedi penderfynu gadael Barri am gyfnod o chwe mis.
Ond penderfynodd Smithy gefnu ar ei briodas i fynd ar ei hôl, gyda'r prif gymeriadau i gyd yn teithio ar fws Dave Coaches i ddociau Southampton.
Yno fe wnaeth Smithy ofyn iddi ei briodi - y diweddglo perffaith i nifer o wylwyr.
Inline Tweet: https://twitter.com/mellohibench/status/1872049403051294874
Dywedodd y newyddiadurwr Peter Gillibrand: "Dyna oedd y ffordd fwyaf perffaith i ddod â Gavin & Stacey i ben.
"Dwi wedi chwerthin. Rydw i wedi crio. A phopeth yn y canol."
Ychwanegodd defnyddiwr arall ar X: "Roedd diweddglo Gavin & Stacey mor berffaith a dweud y gwir.
"Yr eiliadau oedd yn cyfeirio at benodau'r gorffennol, ac araith Mick am Smithy yn llenwi'r bwlch yn eu bywydau!
"Ruth a James, da iawn wir! Roedd yn hollol berffaith."