‘Mor ddiflas’: Mab Iolo Williams ddim yn rhannu hoffter ei dad o adar
Mae mab Iolo Williams, Dewi, wedi datgelu ei fod yn wahanol iawn i’w dad mewn un ffordd.
Mae’r ddau yn mwynhau bywyd gwyllt ac wedi bod yn rhedeg taith saffari ar y cyd ar gyfer grŵp o ymwelwyr, ym Mharc Cenedlaethol De Luangwa yn Zambia.
Ond fel rhan o raglen S4C, Iolo a Dewi: Y Tad a'r Mab a Zambia, datgelodd Dewi nad oedd yn debyg i'w dad mewn un ffordd - nid yw'n rhannu ei hoffter o adar o gwbl.
“Diflas, diflas, diflas” oedd y creaduriaid rheini iddo ef, meddai.
“Maen nhw’n diflasu fi,” meddai.
“Pan oni’n blentyn roedd Dad yn mynd a ni allan a, dwi’m hyd yn oed yn cofio pa fath o adar.
“O, roedd o mor ddiflas!
“O’dd o’n ddiwrnod hir i weld pethau doedd gen i ddim clem be oni’n edrych ar.
“Ond dyna beth oedd yn digwydd wrth dyfu fyny efo Dad.”
'Dysgu'
Yn ystod eu taith fe welodd y ddau digon o fywyd gwyllt o ddiddordeb i’r rheini sydd ddim yn hoffi adar, gan gynnwys llewod, llewpardiaid, eliffantod, byfflo, jiráff, a hyena.
Roedd hefyd yn gyfle i roi citiau pêl-droed Abertawe yn rhodd i blant yr ardal leol.
Mae Iolo Williams yn cyfaddef nad ydi ei fab yn “ddyn adar o gwbl” ond yn dweud fod gan Dewi ddigon i’w ddysgu gan ei hen ddyn o hyd.
Wrth dynnu coes ei fab dywedodd fod “gymaint o uchafbwyntiau i ti yn cael dod efo fi ar saffari”.
“A rhaid i ni gael un arall achos mae yna gymaint gen ti i’w ddysgu,” meddai.
“Mae’n mynd i gymryd blynyddoedd i ti ddysgu pob peth sydd yn y fan yma boi!” meddai wrth roi bys i ochr ei ben.
“Dwyt ti’m yn dysgu hynny mewn llyfr.”
Bydd Iolo a Dewi: Y Tad a'r Mab a Zambia ar S4C am 19.15 ar ddydd Iau, 26 Rhagfyr.