Cymro'n cofio tswnami Asia 2004 'fel petai'n ddoe'
20 mlynedd ers y tswnami a laddodd dros 200,000 ar ddydd San Steffan, mae Cymro oedd yn Thailand ar y pryd yn "cofio'r diwrnod fel petai wedi digwydd ddoe".
Roedd Armand Watts o Frynbuga yn Sir Fynwy ar ei wyliau yn Krabi pan darodd y tswnami'r ardal.
Bu farw 227, 898 o bobl yn y tswnami oedd yn mesur 9.3 ar y raddfa maintioli, y trychineb naturiol gwaethaf ar gofnod ag un effeithiodd ar 14 o wledydd.
Roedd yn aros yng Ngwesty Rayavadee ar benrhyn Bae Toblerone yn Krabi, ac fe allai fod wedi colli ei fywyd os nad oedd wedi mynd ar drip yn y jwngl y diwrnod hwnnw.
Dywedodd Armand Watts wrth Newyddion S4C bod y digwyddiad wedi gadael craith arno am amser maith.
"Cafodd y tswnami effaith emosiynol arnaf am gyfnod hir," meddai.
"Mae llawer o bobl dal yn byw gyda'r atgofion yna ac mae'n rhyfedd i feddwl bydd 20 mlynedd wedi mynd heibio.
"Os fyddem wedi gwneud y penderfyniad i aros yn y gwesty'r diwrnod hwnnw, efallai mai ni fyddai un o'r bobl fyddai wedi colli eu bywydau.
"Chi'n byw gyda'r sefyllfa lle chi'n meddwl 'sut mai fi oedd wedi goroesi? Pam fi? Pam penderfynais i fynd ar drip y diwrnod hwnnw?'
"Dwi'n cofio'r sgyrsiau o'r diwrnod hwnnw petai e fel ddoe."
Fe wnaeth dros 5,000 o bobl farw yn Krabi o ganlyniad i'r tswnami.
Fe allai Armand fod yn un o'r bobl yna, ond fe benderfynodd mynd ar drip eliffantod yn y jwngl ar ddiwrnod y tswnami.
Mae'n cofio clywed am yr hyn ddigwyddodd gan drefnydd y daith yr oedd arni ac yna fe geisiodd fynd yn ôl i'r gwesty.
"Roedd y trefnydd wedi dweud bod rhywbeth wedi digwydd, roedd yn sôn am ryw don fawr ond roedd yn anodd deall beth oedd wedi digwydd.
"Dywedodd wrthym i fynd yn ôl i'r gwesty ond doedd dim modd i ni wneud hynny.
"Roeddem wedi ceisio cael tacsi yn nhref Krabi ond roedd e fel bod mewn ffilm, ni mewn tacsi a phawb yn rhedeg i'r cyfeiriad arall.
"Erbyn i ni gyrraedd yr arfordir doedd dim byd yno, jyst tywod a ni. Roedd y gwesty yn y bôn wedi cael ei ddinistrio ac roeddem wedi colli bob dim."
Gadael yr ardal
Cafodd Mr Watts a'i bartner ar y pryd eu rhoi mewn gwesty yn Krabi cyn teithio yn ôl i Bangkok.
Mae'n cofio gweld parti priodas yn cael ei gynnal yn y gwesty tra bod pobl oedd wedi eu hanafu gan y tswnami yn derbyn triniaeth yn y dderbynfa.
"Roedd yn swreal a dweud y gwir, roedd parti priodas ymlaen ar yr un pryd, dathliad enfawr tra bod yr holl bobl hyn wedi'u dadleoli, llawer ohonynt ag anafiadau yn y dderbynfa.
"Roedd pobl gydag esgyrn wedi torri, cleisiau, fe allai pethau wedi bod mor wahanol i ni.
"Dwi'n meddwl bod gen i fwy o werth yn fy mywyd o ddydd i ddydd nawr nag oeddwn i pe na bawn i wedi profi'r tswnami."