Newyddion S4C

Cyn chwaraewr rygbi Cymru Geoff Wheel wedi marw yn 73 oed

Geoff Wheel

Mae cyn chwaraewr rygbi Cymru Geoff Wheel wedi marw yn 73 oed.

Roedd yn dioddef gyda chlefyd motor niwron am sawl blwyddyn.

Chwaraeodd yn yr ail reng i glybiau y Mwmbwls ac Abertawe ac fe enillodd 32 o gapiau dros ei wlad.

Roedd yn gapten dros Abertawe am ddau dymor ac fe chwaraeodd 323 o gemau i'r clwb.

Cynrychiolodd Cymru rhwng 1974 ac 1982, cyfnod pan enillodd y wlad Goron Driphlyg y Pum Gwlad fel yr oedd yn cael ei adnabod ar y pryd, ar dri achlysur.

Yn ystod ei 32 o gapiau roedd wedi ffurfio partneriaeth gadarn gydag Allan Martin yn safle'r ail reng.

Ef oedd y chwaraewr cyntaf i dderbyn cerdyn coch yng nghystadleuaeth y Pum Gwlad yn 1977 a hynny yn erbyn Iwerddon am ymladd gyda Willie Duggan.

Mewn teyrnged i Geoff Wheel dywedodd cadeirydd Clwb Rygbi Abertawe, Stan Addicott ei fod yn berson roedd pawb yn ei garu.

“Roedd Geoff yn cael ei barchu a’i garu’n fawr gan bawb yng Nghlwb Rygbi Abertawe," meddai.

"Cefais y fraint o fod yn hyfforddwr y clwb am saith mlynedd o ganol y saithdegau i ganol yr wythdegau.

"Roedd ei natur galonnog, danllyd, ond eto deniadol a doniol yn swyno'r chwaraewyr, tra byddai'n aml yn rhannu ei ddawn gerddorol ar yr acordion a'r iwcalili ar ôl y gemau gyda chefnogwyr y clwb.

"Roedd yn sicr yn un o gymeriadau mawr ei gyfnod yn rygbi Cymru a bydd cael ei golli’n fawr fel dyn teulu, chwaraewr a ffrind i lawer o bobl.”

Bydd munud o dawelwch yng ngêm gartref nesaf Clwb Rygbi Abertawe ar Ragfyr 28ain, yn erbyn Aberafan i gofio Geoff Wheel.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.