Merch gyda dinasyddiaeth Brydeinig yn un o'r rhai fu farw yn nhân Swistir
Mae merch oedd gyda dinasyddiaeth Brydeinig wedi ei henwi fel un o'r rhai a fuodd farw yn y tân mewn bar yn y Swistir nos Calan.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fe gyhoeddodd teulu Charlotte Niddam "gyda thristwch mawr" ei bod hi wedi marw.
Mae'r Ysgrifennydd Tramor, Yvette Cooper hefyd wedi cadarnhau'r newyddion mewn neges ar y cyfrwng X.
Ddydd Sul fe ddywedodd swyddogion o'r Swistir eu bod bellach wedi gallu adnabod y 40 o bobl a fuodd farw yn y tân yn Crans-Montana.
Y gred yw bod Charlotte yn 15 oed ac iddi fod yn ddisgybl yng Ngholeg Immanuel, sef ysgol breifat yn Swydd Hertford ac Ysgol Iddewig Am Ddim yng ngogledd orllewin Llundain.
Roedd ganddi ddinasyddiaeth gyda Phrydain, Ffrainc ac Israel.
Yn ôl gwefan cyrchfan gwyliau Crans-Montana roedd Charlotte wedi. bod yn gweithio fel gwarchodwr plant yn yr ardal.
'Prydferth'
Ar facebook fe ddywedodd ei theulu bod Charlotte yn ferch "brydferth" ac fe wnaethant "ddiolch am y gefnogaeth yn ystod y dyddiau diwethaf".
Fe ddywedodd Yvette Cooper ar X bod y "newyddion yn ofnadwy".
"Mae fy meddyliau gyda'i holl deulu a ffrindiau ar ôl y golled aruthrol yma," meddai.
Mae Llywydd Swistir wedi galw'r tan yn un o "drychinebau gwaethaf" y wlad.
Roedd y rhai a fuodd farw rhwng 14 a 39 oed ac yn dod o saith o wledydd, er roedd gan nifer fwy nag un ddinasyddiaeth.
Llun: Charlotte Niddam/TikTok