Newyddion S4C

Arestio dynes ar amheuaeth o lofruddiaeth ddydd Nadolig

Elm Road

Mae dynes wedi’i harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i ddyn farw mewn pentref yn Sir Stafford yn Lloegr ddydd Nadolig.

Dywed Heddlu Sir Stafford bod swyddogion wedi eu galw i adroddiad bod dyn yn ei 30au wedi dioddef ataliad ar y galon ar Elm Road, Norton Canes, tua 3.25 ddydd Mercher.

Bu farw’r dyn yn fuan wedyn ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal fore San Steffan, meddai’r heddlu.

Mae dynes 33 oed o Cannock wedi ei chadw yn y ddalfa ac yn cael ei holi gan yr heddlu.

Dywedodd yr heddlu fod perthnasau agosaf y dyn wedi cael gwybod.

Ychwanegodd y llu fod disgwyl i’r heddlu fod â “mwy o bresenoldeb” yn safle’r drosedd honedig am rai dyddiau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.