Newyddion S4C

Cip ar gemau Dydd San Steffan yn y Cymru Premier JD

Cymru Premier 24/25 - Caernarfon v Llansawel

Dim ond tair wythnos sydd i fynd tan yr hollt yn y gynghrair ac mae’r cyffro’n cynyddu yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf.

31 o bwyntiau yw’r swm arferol sydd ei angen i hawlio lle’n y Chwech Uchaf ac mae tri clwb eisoes wedi pasio’r targed hwnnw (Pen-y-bont, YSN, Met Caerdydd).

Ond wedi dweud hynny, mae hi’n eithriadol o dynn yng nghanol y tabl, ac mae’n debygol y bydd angen mwy na 31 o bwyntiau i gyrraedd y nod eleni.

34 pwynt yw’r nifer uchaf sydd wedi bod ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf (Y Bala yn 2018/19) a 27 pwynt oedd y nifer lleiaf (Port Talbot yn 2010/11), ond ar gyfartaledd, 31 pwynt ydi’r swm cyffredinol.

Triphwynt yn unig sy’n gwahanu’r pum clwb rhwng y 3ydd a’r 7fed safle ac felly mae cyfnod y Nadolig yn un tyngedfennol i’r clybiau rheiny sydd eisiau cyrraedd y Chwech Uchaf a chadarnhau eu lle yn y gemau ail gyfle am Ewrop ar ddiwedd y tymor.

 Dydd Iau, 26 Rhagfyr

 Met Caerdydd (3ydd) v Llansawel (11eg) | Dydd Iau – 12:30

Mae Met Caerdydd yn anelu i sicrhau lle yn yr hanner uchaf am y trydydd tymor o’r bron, ond gyda’u dwy gêm nesaf i ddod yn erbyn y ddau uchaf bydd y myfyrwyr yn benderfynol o gipio’r triphwynt ar ddydd San Steffan.

Mae tîm Ryan Jenkins wedi chwarae 11 gêm gartref ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn gan golli dim ond ddwywaith (ennill 5, cyfartal 4).

Mae Llansawel driphwynt o dan diogelwch y 10fed safle, ond mae gan y Cochion gêm wrth gefn.

Dyw Llansawel m’ond wedi ennill un o’u wyth gêm gynghrair oddi cartref a cholli’r saith arall, gyda’r unig fuddugoliaeth yn dod ym Mhen-y-bont ym mis Medi. 

Enillodd Met Caerdydd o 5-1 yn Llansawel ar ddechrau’r tymor, a dyna’r unig dro i’r myfyrwyr sgorio pump o goliau mewn gêm gynghrair oddi cartref ers eu dyrchafiad i’r Cymru Premier JD yn 2016.

Record cynghrair diweddar: 

Met Caerdydd: ͏ ❌➖✅❌✅

Llansawel: ❌✅❌✅❌

Gemau cyn yr hollt:

Met Caerdydd: Pen (oc), YSN (c) 
Llansawel: Barri (c), Hwl (oc), Aber (oc) 

Y Barri (7fed) v Pen-y-bont (1af) | Dydd Iau – 12:30

Pen-y-bont gafodd y fraint o eistedd ar frig coeden y Cymru Premier JD ar ddydd Nadolig, er nad ydyn nhw wedi chwarae gêm ers mwy na tair wythnos.

Byddai buddugoliaeth i dîm Rhys Griffiths ar ddydd San Steffan yn eu gadael ar 43 o bwyntiau wedi 19 o gemau, sef eu cyfanswm wedi 32 gêm ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Mae’r Barri’n hafal ar bwyntiau gyda’r Bala a Chaernarfon yn y ras am y Chwech Uchaf, ond ar ôl colli yn erbyn y ddau glwb rheiny yn eu dwy gêm ddiwethaf, mae’r Dreigiau wedi llithro i’r hanner isaf ar wahaniaeth goliau.

Fe wnaeth y timau gyfarfod ddwywaith ym mis Hydref mewn gemau llawn goliau gyda Pen-y-bont yn ennill o 4-1 yn y gynghrair cyn i’r Barri dalu’r pwyth yn ôl gyda buddugoliaeth o 3-2 yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG.

Dyw Pen-y-bont heb ennill dim un o’r pum gêm ddiwethaf rhwng y timau ar Barc Jenner (cyfartal 4, colli 1), ers eu buddugoliaeth o 1-0 ym mis Mawrth 2021 pan sgoriodd Sam Snaith unig gôl y gêm i Ben-y-bont ar ôl i Clayton Green weld cerdyn coch i’r Barri, ac mae’r ddau bellach wedi cyfnewid clybiau.

Record cynghrair diweddar: 

Pen-y-bont: ͏➖✅✅❌✅

Y Barri: ❌✅✅❌❌

 Gemau cyn yr hollt:

Y Barri: Llan (oc), Hwl (c)

Pen-y-bont: Met (c), Cei (c), Dre (oc)

 Aberystwyth (12fed) v Y Bala (5ed) | Dydd Iau – 14:30

Mae’r Bala wedi sicrhau lle’n y Chwech Uchaf ym mhob un o’r 10 tymor diwethaf, ac mae criw Colin Caton mewn safle addawol i wneud hynny eto eleni yn dilyn rhediad o wyth gêm gynghrair heb golli (cyfartal 6, ennill 2).

Gormod o gemau cyfartal yw prif broblem Y Bala eleni gan bod 10 o’u 19 gêm gynghrair wedi gorffen yn gyfartal, yn cynnwys gemau oddi cartref yn Llansawel, Y Fflint a’r Drenewydd ble byddai’r Bala wedi disgwyl gadael gyda’r triphwynt.

Mae Aberystwyth wedi cau’r bwlch rhyngddyn nhw â’r Fflint (10fed) i bedwar pwynt ar ôl curo Caernarfon am yr eildro’r tymor hwn y penwythnos diwethaf.

Ond mae’r Bala wedi ennill 11 o’u 13 gêm ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth (cyfartal 1, colli 1), yn cynnwys buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 yn gynharach y tymor hwn.

Medi 2018 oedd y tro diwethaf i Aberystwyth ennill gêm gartref yn erbyn Y Bala ac felly bydd Colin Caton yn disgwyl dim llai na thriphwynt ar Goedlan y Parc ddydd San Steffan.

Record cynghrair diweddar: 

Aberystwyth: ͏❌✅❌❌✅

Y Bala: ➖➖➖✅✅

Gemau cyn yr hollt:

Aberystwyth: Hwl (oc), Llan (c)

Y Bala: Cfon (c), Cei (oc) 

Caernarfon (6ed) v Y Seintiau Newydd (2il) | Dydd Iau – 14:30

Mae Caernarfon wedi cyrraedd yr hanner uchaf ym mhump o’u chwe tymor ers esgyn i’r uwch gynghrair, ac ar ôl chwarae’n Ewrop dros yr haf bydd Richard Davies yn benderfynol o gyrraedd y Chwech Uchaf eto eleni er mwyn rhoi’r cyfle gorau i’w garfan gamu i Ewrop unwaith eto.

Ond ar ôl colli yn erbyn y clwb ar waelod y tabl, Aberystwyth, dros y penwythnos, mae hi’n mynd i fod yn her i’r Caneris ddal eu tir yn yr hanner uchaf.

Am y tro cyntaf ers tymor 2018/19 nid Y Seintiau Newydd oedd ar frig tabl Uwch Gynghrair Cymru dros y Nadolig.

Ond gyda’r Seintiau bellach allan o Ewrop, bydd Craig Harrison yn gallu canolbwyntio ar y gemau domestig gan anelu am y trebl unwaith yn rhagor.

Bydd Y Seintiau Newydd yn awyddus i ddial ar Gaernarfon yn dilyn buddugoliaeth y Cofis o 2-1 yn Neuadd y Parc ym mis Hydref diolch i goliau gan Zack Clarke a Louis Lloyd.

Ond mae gan y Seintiau record gryf ar yr Oval gyda cewri Croesoswallt yn ennill ar eu saith hymweliad diwethaf, yn cynnwys y grasfa o 8-1 ym mis Chwefror.

Record cynghrair diweddar: 

Caernarfon: ❌✅➖✅❌
Y Seintiau Newydd: ✅❌✅❌✅

Gemau cyn yr hollt:

Caernarfon: Bala (oc), Fflint (c) 
Y Seintiau Newydd: Cei (c), Dre (c), Met (oc)

Cei Connah (8fed) v Y Fflint (10fed) | Dydd Iau – 14:30

Yn narbi Sir y Fflint bydd Cei Connah yn benderfynol o gipio’r triphwynt er mwyn cadw’r freuddwyd o gyrraedd yr hanner uchaf yn fyw.

Mae Cei Connah wedi gorffen yn y ddau safle uchaf mewn pump o’r chwe tymor diwethaf (colli 18pt yn nhymor 2021/22), ond mae’r Nomadiaid mewn perygl gwirioneddol o fethu a chyrraedd y Chwech Uchaf eleni.

Gorffennodd Cei Connah yn 9fed yn nhymor 2021/22 ar ôl derbyn 18 pwynt o gosb am chwarae chwaraewr anghymwys, ond oni bai am hynny mae’r Nomadiaid wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ar bob achlysur ers gorffen yn 7fed yn 2014/15.

Mae’r Fflint wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf ar Gae y Castell, ond heb ennill oddi cartref ers dechrau mis Hydref (Dre 2-4 Fflint).

Awst 2011 oedd y tro diwethaf i’r Fflint guro Cei Connah, ac ers hynny dyw Cei Connah heb golli dim un o’u 11 gêm yn erbyn Y Fflint (ennill 9, cyfartal 2), ac mae’r Nomadiaid wedi cadw llechen lân yn eu pum gornest ddiwethaf yn erbyn y Sidanwyr.

Rhys Hughes sgoriodd unig gôl y gêm i’r Nomadiaid yn y frwydr flaenorol rhwng y clybiau ar Gae y Castell ym mis Awst, a dyw Cei Connah m’ond wedi ildio un gôl yn eu naw gêm ddiwethaf yn erbyn Y Fflint (1-1 ym mis Ionawr 2022, gyda Callum Bratley yn sgorio yn y funud olaf i’r Fflint).

Record cynghrair diweddar: 

Cei Connah: ͏❌✅❌✅➖

Y Fflint: ͏❌❌✅✅❌

Gemau cyn yr hollt:

Cei Connah: YSN (oc), Pen (oc), Bala (c)

Y Fflint: Dre (c), Cfon (oc)

Y Drenewydd (9fed) v Hwlffordd (4ydd) | Dydd Iau – 14:30

Mae angen buddugoliaeth ar Y Drenewydd ar ddydd San Steffan os am unrhyw obaith o aros yn y ras am y Chwech Uchaf.

Mae’r Drenewydd wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhump o’r chwe tymor diwethaf, ac er iddyn nhw orffen yn 7fed yn nhymor 2020/21 fe aethon nhw ymlaen i ennill y gemau ail gyfle a chamu i Ewrop ar ddiwedd yr ymgyrch hwnnw.

Ond tydi’r sefyllfa ddim cystal eleni gan bod y Robiniaid ar rediad o saith gêm heb ennill ym mhob cytadleuaeth, sy’n golygu bod Callum McKenzie yn dal i aros am ei bwynt cyntaf ar ôl tair colled yn olynol ers cael ei benodi fel rheolwr newydd Y Drenewydd.

31 o bwyntiau ydi’r swm arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf, a byddai pwynt i Hwlffordd ar Barc Latham yn ddigon i gyrraedd y targed hwnnw.

Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 9 gôl mewn 18 gêm), ond dim ond y tîm isa’n y tabl, Aberystwyth, sydd wedi sgorio llai na’r Adar Gleision (20 gôl).

Dyw Hwlffordd heb sgorio yn eu tair gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, yn cynnwys colled siomedig yn erbyn Llanelli o’r ail haen yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD.

Mae dros chwarter o gemau cynghrair Hwlffordd wedi gorffen yn ddi-sgôr y tymor hwn (5/18) ac felly mae’n bosib bydd Tony Pennock yn ystyried mynd i siopa am ymosodwr newydd dros gyfnod y Nadolig.

Mae pedwar ymosodwr wedi chwarae i Hwlffordd yn y gynghrair y tymor hwn (Ben Ahmun, Owain Jones, Ben Fawcett, Dan Hawkins), a rhyngddyn nhw fe sgorion nhw m’ond 14 gôl mewn 96 ymddangosiad yn y gynghrair y tymor diwethaf.

Mae nhw’n agos i guro’r targed hwnnw’n barod eleni gyda 13 gôl mewn 63 gêm hyd yma, ond bydd angen codi’r bar os am barhau i gystadlu gyda’r elît yn ail ran y tymor.

Ond chafodd Hwlffordd ddim trafferth sgorio yn erbyn Y Drenewydd yn eu gornest flaenorol ym mis Awst gyda’r Adar Gleision yn ennill o 3-0 yn dilyn cerdyn coch i asgellwr y Cochion, Zeli Ismail ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Record cynghrair diweddar: 

Y Drenewydd: ͏❌➖❌❌❌

Hwlffordd: ➖✅❌➖❌

Gemau cyn yr hollt:

Y Drenewydd: Fflint (oc), YSN (oc), Pen (c)

Hwlffordd: Aber (c), Llan (c), Barri (oc)

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.