Neges Nadolig gyntaf Eluned Morgan fel Prif Weinidog
Mae Eluned Morgan wedi annog pobl i feddwl am y rhai sy'n unig mewn cymdeithas yn ei neges Nadolig gyntaf fel Prif Weinidog Cymru.
Daeth yn brif weinidog ym mis Awst eleni, gan olynu Vaughan Gething a ymddiswyddodd wedi i bedwar gweinidog adael ei lywodraeth.
Hi yw chweched prif weinidog Cymru, a'r ddynes gyntaf yn y swydd.
Yn ei neges Nadolig gyntaf fel prif weinidog, dywedodd: "Dwi eisiau dymuno Nadolig llawen a heddychlon i chi gyd – ble bynnag a sut bynnag chi’n dathlu.
"Dwi’n gobeithio bo chi’n gallu treulio’r amser yma gyda theulu a ffrindiau, a chael rhywfaint o amser i orffwys!
"Dwi hefyd eisiau dweud diolch o galon i'r nifer fawr o bobl fydd yn gweithio dros yr ŵyl."
Ychwanegodd: "O'n gwasanaethau brys, i'r NHS a'r cynghorau lleol - diolch am bopeth chi'n ei wneud i'n cadw ni'n ddiogel yr adeg yma o'r flwyddyn.
"Ac wrth gwrs i'r holl wirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser i eraill – dyma wir ysbryd y Nadolig.
"Gall y Nadolig fod yn amser unig i lawer. Felly, os chi am wneud un peth dros y Nadolig, gwnewch yn siŵr eich bod yn checio i mewn ar bobl eraill yn eich cymuned."