Arestio dyn 27 oed wedi marwolaeth dyn mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr
Arestio dyn 27 oed wedi marwolaeth dyn mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr
Mae dyn 27 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, o beidio â stopio wedi gwrthdrawiad ac o fethu ag adrodd fod gwrthdrawiad wedi digwydd, wedi marwolaeth dyn yn Llanpumsaint, Sir Gâr nos Lun.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng 18.45 a 19.45.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau mai Aaron Jones, 38 oed o Lanpumsaint a fu farw.
Roedd yn mynd â'i gi am dro pan gafodd ei daro ger capel Caersalem.
Roedd y car yn teithio tua’r gogledd trwy Lanpumsaint pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, meddai'r llu.
Cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys nos Fawrth eu bod nhw wedi dod o hyd i'r cerbyd y mae'n nhw'n credu oedd yn y gwrthdrawiad.
Mae'r ffordd yn dal ar gau yn y pentref, ac yn ôl yr heddlu, bydd presenoldeb yr heddlu yn amlwg yn yr ardal wrth i'w hymholiadau barhau.
Yn ôl yr heddlu, mae teulu Aaron Jones yn cael cefogaeth swyddogion arbenigol, ac maen nhw'n "galw am breifatrwydd ar yr adeg anodd hon".
'Trychinebus'
Dywedodd y cynghorydd lleol Bryan Davies, fod y sefyllfa'n "drychinebus".
"Mae'n anghredadwy, sefyllfa mor drychinebus," meddai.
"Bachgen lleol, mor frwdfrydig, gyda theulu ifanc, gwraig a dau o blant bach."
Ychwanegodd: "Mae'n anodd amgyffred beth mae'r teulu 'na'n mynd trwyddo bore 'ma."
Cafodd gorymdaith Siôn Corn oedd i fod i ddigwydd yn y pentref yn ystod y dydd ei chanslo.
Dywedodd pwyllgor parc Llanpumsaint ar gyfryngau cymdeithasol: "Oherwydd y digwyddiad torcalonnus dros nos yn y pentref, rydym wedi penderfynu canslo Gorymdaith Siôn Corn heddiw.
"Hoffem fel pwyllgor estyn ein cydymdeimlad dwysaf i'r teulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach ar yr adeg anodd hon."
Mae’r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu dystiolaeth dashcam all fod o gymorth i gysylltu ar unwaith gan ddyfynnu'r rhif DP-20241223-290.