Newyddion S4C

Dirwy i Wrecsam a Bristol Rovers am 'fethu â rheoli eu chwaraewyr'

Wrecsam a Bristol Rovers

Mae Wrecsam a Bristol Rovers wedi cael dirwy gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr am fethu â rheoli eu chwaraewyr yn eu gêm dros y penwythnos.

Roedd ffrwgwd yn Stadiwm Memorial ym Mryste ddydd Sadwrn ar ôl i Bristol Rovers sgorio ym munudau olaf y gêm, gan sicrhau gêm gyfartal. 

Mae gan y clybiau tan ddydd Llun, 30 Rhagfyr i ymateb.

'Gwrthdaro'

Mewn datganiad, dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr: "Mae Bristol Rovers a Wrecsam wedi cael dirwy yn dilyn gwrthdaro torfol yn ystod eu gêm EFL Cynghrair Un ddydd Sadwrn, 21 Rhagfyr 2024.

"Mae gan y ddau glwb tan ddydd Llun, 30 Rhagfyr 2024 i ymateb i'r ddirwy."

Fe gafodd cardiau melyn eu rhoi i James McClean (dde) a Steven Fletcher (chwith) o Wrecsam, yn ogystal â chapten Bristol Rovers, James Wilson (canol), ar ôl y chwiban olaf.

Lluniau: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.