Newyddion S4C

Cyfansoddi cân ar ôl cael ysbrydoliaeth gan arwyr tawel Cymru

Elin Fflur a Lily Beau

Mae dwy gantores a chyflwynydd wedi cyfansoddi cân ar ôl cael eu hysbrydoli gan arwyr tawel Cymru. 

Bydd cân Elin Fflur a Lily Beau yn cael ei chyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol S4C Rhagfyr 27.

Fe aethon nhw ati i gyfansoddi y gân ar ôl cyfarfod ag unigolion sydd wedi wynebu cyfnodau anodd yn eu bywydau ond wedi dangos dewrder.

Yn ystod y rhaglen Dathlu Dewrder, bydd tlysau arbennig yn cael eu cyflwyno i'r unigolion a gafodd eu creu gan y gemydd Buddug.

Byddwn yn dod i wybod mwy am straeon y bobl. 

Dyma ragflas o straeon yr arwyr tawel:

Rhys a Hannah Owen

Mae Rhys yn dod yn wreiddiol o Gei Cona. Pan oedd yn 21 oed cafodd afiechyd cronig ar yr aren. 

Ym mis Chwefror 2020, cafodd drawsblaniad aren gan ei chwaer Hannah. Mae'n rhan o dîm pêl droed Trawsblaniad Cymru.

Image
Dathlu Dewrder
Hannah a Rhys Owen gyda'r cyflwynydd Elin Fflur

Eirian Evans

Gofalu am ei wraig wna Eirian Evans. Mae ganddi ganser ac mae wedi ei enwi'n Ofalwr y Flwyddyn Cymru. 

Nid dyma'r unig wobr iddo gael. Fe enillodd Wobr Nation Radio Pride of Wales ar ôl cael ei enwebu gan staff canolfan ganser Maggie's yn Abertawe. 

Yn ogystal â gofalu am ei wraig a'i ddwy ferch mae hefyd yn uwch-ymarferydd nyrsio. 

Gweithio yn y maes gofal yr henoed mae Eirian ac mae hefyd yn wirfoddolwr gyda chriw RNLI Port Talbot. 

Ffion Wyn Evans

Nyrs iechyd meddwl o Gaernarfon yw Ffion. Ar ôl geni ei babi fe gafodd iselder. O achos ei swydd roedd cyfaddef ei bod hi'n ffeindio hi'n anodd i ymdopi. 

Mae wedi dechrau grŵp ar ei liwt ei hun sy’n cynnig cymorth i famau newydd sy’ hefyd yn dioddef. 

Yn ogystal mae wedi lansio adnoddau Enfys o Emosiynau er mwyn helpu plant. 

Erbyn hyn mae’r llyfr yn cael ei ddefnyddio mewn nifer o ysgolion ar draws Cymru.

Rob Havelock

Mae Rob o Borthmadog wedi byw â dibyniaeth alcohol a chyffuriau. 

Ond fe ddaeth achubiaeth trwy fynyddoedd a thirwedd Eryri. 

Ar un cyfnod yn ei fywyd fe gollodd bopeth - ei gartref a'i deulu a ffrindiau. 

Wrth iddo ddechrau gwella fe sylweddolodd bod y mynyddoedd yn gysur mawr iddo. 

Mae Rob rŵan wedi sefydlu grŵp cerdded, ‘Sober Snowdonia’, ar gyfer unigolion sy’n diodde’ o ddibyniaeth ac iechyd meddwl. 

Ioan Rhun Jones

Bachgen ifanc 18 oed o Lanfairpwllgwyngyll, Ynys Môn yw Ioan. 

Fo fydd y person ‘fenga erioed i gwblhau’r her o redeg ar hyd Cymru gyfan, 180 o filltiroedd. 

Y nod fydd rhedeg 30 milltir bob dydd am chwe diwrnod. Bydd yn codi arian at elusen iechyd meddwl.

Image
Dathlu dewrder 4
Y cyflwynydd Lily Beau gydag Ioan Rhun Jones

Mae Ioan wedi profi colled bersonol ar ôl i'w dad farw yn 2020. 

Ers hynny mae codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl wedi bod yn bwysig iddo. 

Yn gynharach eleni fe gododd £5,500 at elusen Shout, drwy gerdded i Base Camp Everest.

Mae'n fachgen ffit sydd wedi cwblhau sawl ras heriol. 

Ei heriau mwyaf diweddar oedd rhedeg i fyny ac i lawr yr Wyddfa chwe gwaith mewn 24 awr a rhedeg 58.6 milltir yn y Backyard Ultra.

Hafwen Clarke

Yn ddiweddar fe greodd Hafwen sy'n 19 oed o Aberystwyth hanes wrth fod y person cyntaf erioed i draddodi araith mewn BSL ym Mhalas Buckingham. 

Fe aeth hi i'r Palas er mwyn derbyn Gwobr Aur Dug Caeredin. 

BSL yw ei hiaith gyntaf ar ôl i Hafwen gael ei geni yn fyddar. 

Bwriad y teulu oedd rhoi addysg Gymraeg iddo ond er eu hymdrechion wnaethon nhw ddim llwyddo. 

Fe fuodd yn rhaid iddi fynd i ysgol Saesneg. Mae wedi bod yn fentor ar gyfer chwaraeon anabledd ac mae’n gwirfoddoli hefo St John’s Ambulance.

Mae modd gwylio Dathlu Dewrder ar S4C nos Wener am 20.00 a hefyd ar S4C Clic ac BBC iPlayer.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.