Newyddion S4C

'Dechrau yn gynnar': Paratoi ar gyfer y 'Dolig nesaf er mwyn 'osgoi gwastraff'

'Dechrau yn gynnar': Paratoi ar gyfer y 'Dolig nesaf er mwyn 'osgoi gwastraff'

Mae gwirfoddolwyr siop sydd yn ceisio osgoi gwastraff yn y Rhondda wedi annog pobl i “ddechrau yn gynnar” drwy gadw gweddillion y Nadolig eleni ar gyfer y flwyddyn nesaf. 

Mae Samantha Rogers yn werthwr blodau sydd yn gwirfoddoli yn y Siop Fach Sero yng Nghlynrhedyn, a hithau’n angerddol dros leihau faint o wastraff sydd yn cael ei greu dros y ‘Dolig. 

Mae’n dweud fod nifer o bobl o dan bwysau i brynu gormodedd o anrhegion adeg yma o’r flwyddyn ac mae’n annog pawb i baratoi yn gynnar er mwyn lleihau gwastraff a lleddfu pwysau. 

Mae mwy ‘na dair tunnell o wastraff ychwanegol yn cael ei greu dros y Nadolig, meddai Llywodraeth y DU. 

Ac rydym yn creu mwy o wastraff yn ystod y cyfnod yma nag unrhyw adeg arall o'r flwyddyn, medd Llywodraeth Cymru. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, fe wnaeth Ms Rogers rhannu rhai o’i hoff syniadau er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r holl wastraff.

Image
Arbed gweddillion

'Dechrau yn gynnar'

Yn dilyn dathliadau’r Nadolig ddydd Mercher, mae Ms Rogers eisiau annog pobl i beidio â thaflu’r holl bapur lapio a chardiau Nadolig i ffwrdd eto. 

Mae’n galw ar bobl i arbed y gweddillion er mwyn eu hail ddefnyddio'r flwyddyn nesaf. 

“Dwi’n dechrau’n gynnar i safio'r byd trwy safio y papur ni wedi gweld yn ein living rooms ni dros Nadolig," meddai.

“Wrth bod fi’n agor pob anrheg wy’n cadw pethau. Wy’n cadw bocs neu bag wrth ochr y settee pan mae pawb yn agor eu presents ac yn gweud: ‘Ga'i hwnna, ga'i hwnna. 

“A fi’n dechrau safio pethau reit o ddydd Nadolig ymlaen.” 

Gydag ychydig o greadigrwydd, bydd modd ail ddefnyddio y rhan fwyaf o bapur sgrap sydd ar ôl eleni gan ddefnyddio stampiau ac inc i’w adnewyddu, meddai.

A thrwy dorri darluniau oddi ar gardiau byddai hefyd modd eu hail ddefnyddio fel labeli y ‘Dolig nesaf, ychwanegodd.

Image
Papur lapio

Ysbrydoliaeth o dramor

Dywedodd Ms Rogers ei bod wedi ei “hysbrydoli” yn fawr gan bobl Sgandinafia wrth iddi fynd ati i addurno eu hanrhegion. 

Mae’n dweud fod nifer o bobl yno yn cael eu hysbrydoli gan y byd o’u cwmpas – yn enwedig y byd natur. 

Mae’n annog pobl i ddefnyddio’r hyn y mae natur yn ei rhoi “am ddim” yn hytrach ‘na gwario arian ar addurniadau'r flwyddyn nesaf. 

Fe allai dail, brigau a phlanhigion eraill gael eu defnyddio er mwyn addurno papur lapio ac anrhegion, meddai. 

"Os 'newch chi bethau bach trwy'r flwyddyn, dechrau casglu bits and bobs wrth ei gilydd, fydd e ddim cymaint o bwysau arno chi," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.