'Atgof yn byw tu mewn i ni gyd': Teyrnged teulu i gyn arweinydd cyngor
Mae teulu cerddwr oedd yn gyn faer ac arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi rhoi teyrnged iddo.
Fe fuodd Thomas Noel Crowley farw ar ôl gwrthdrawiad ar Stryd y Dŵr ym Mhort Talbot ar 7 Rhagfyr.
Cafodd ei yrru i'r ysbyty ac fe fuodd farw yn “heddychlon” yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn 86 oed ar ddydd Iau, 10 Rhagfyr.
Mae ei deulu wedi ei ddisgrifio fel dyn Catholig “ymroddgar” oedd yn “aelod adnabyddus o’r gymuned.”
Roedd Mr Crowley yn arfer bod yn friciwr cyn iddo ddod yn gynghorydd lleol ac yna yn Faer ac arweinydd Castell-nedd Port Talbot.
Cafodd ei anrhydeddu am ei wasanaeth i’w gymuned gan dderbyn CBE gan y Frenhines Elizabeth II.
Roedd yn ŵr cariadus i’w wraig Anne a'r ddau wedi bod gyda'i gilydd ers 70 o flynyddoedd.
Roedd hefyd yn un o brif ofalwyr i’w ŵyr Sam sydd gydag awtistiaeth.
“Roedd ei deulu cyfan yn ei garu, ac mi oedd ef yn falch iawn ohonynt, gan gynnwys ei ddau fab diweddar, Tyrone a Timothy.
“Fe fuodd ef farw yn heddychlon wedi’i amgylchynu gan ei deulu annwyl oedd yn ei garu cymaint.
“Does 'na ddim geiriau i ddisgrifio’r hyn rydym yn teimlo. Mae ei atgof yn byw y tu mewn i ni gyd.”