Jonathan yn 20: Nigel Owens yn cofio siarad am ei rywioldeb am y tro cyntaf
Jonathan yn 20: Nigel Owens yn cofio siarad am ei rywioldeb am y tro cyntaf
Mae Nigel Owens wedi bod yn hel atgofion am siarad am ei rywioldeb yn gyhoeddus am y tro cyntaf ar gyfer rhaglen deledu Jonathan.
Daw hyn wrth i'r rhaglen ddathlu 20 mlynedd ers y bennod gyntaf ar noswyl Nadolig.
Mae Nigel Owens, sy'n gyn ddyfarnwr rygbi rhyngwladol, wedi bod yn rhan o dîm gwreiddiol rhaglen Jonathan. Fe wnaeth y rhaglen ymddangos ar y sgrîn am y tro cyntaf yn 2004.
Gyda chymorth ei gyfaill a phrif gyflwynydd y rhaglen, Jonathan Davies, penderfynodd Nigel Owens gyhoeddi ei fod yn hoyw mewn pennod arbennig ar Nos Galan yn 2005.
Fe ddechreuodd y bennod honno gyda’r cyn ddyfarnwr rygbi yn eistedd y tu mewn i gwpwrdd gan agor y drysau i ystafell lawn cymeradwyaeth.
Yn ôl Nigel Owens, cafodd Jonathan Davies y syniad iddo “ddod mas ar y rhaglen” fel bod modd iddo deimlo’n fwy cyfforddus yn siarad am ei rywioldeb.
“Ddes i mas yn 2005, ac o’n i’n ffilmio’r rhaglen ‘ma wrth gwrs.
“O’dd popeth bach yn anghyffyrddus achos o’dd neb yn dweud dim byd.
“Ga’th Jonathan y syniad wedyn: ‘reit, ‘ma raid iddo ddod mas ar y rhaglen’!”
Heriau
Roedd siarad â'i deulu am ei rywioldeb wedi profi’n heriol i Nigel Owens gan nad oedd ei rieni yn “gwybod dim,” meddai.
“O’dd mam a dad ‘di ffindo fe'n eitha anodd pan ddes i mas – oedden nhw’n gefnogol iawn, ond yn ffindo fe’n anodd, ddim yn gwybod dim amdano.
“Wrth gwrs, o’dd y rhaglen yn mynd mas ar nos Galan. So o’n i’n meddwl ‘Iesu ma Mam a Dad yn mynd i weld hyn i gyd ‘to nawr!
“O’n nhw’n mynd mas nos Galan i glwb rygbi Mynydd Cerrig – o’dd band yn chwarae ‘na. Na’th y band ddim troi fyny felly na’th y clwb roi rhaglen Jonathan ‘mlaen ar y sgrin fawr.
“Y diwrnod wedyn na’th Dad ofyn ‘be oeddet ti’n neud yn dod mas o’r cwpwrdd yna? A Mam yn gorfod esbonio ‘mae’n dod mas achan".
“Dad yn dweud wedyn ‘Os nad oedd e’n mynd mewn yn y lle cynta’ doedd ddim eisie fe ddod mas’! Ath e stret dros ben Dad!”
'Joio pob munud'
Mae dros 200 o benodau Jonathan bellach wedi cael eu darlledu ar S4C, gyda Jonathan Davies yn “falch mod i dal yn eistedd ‘ma.”
“Dwi’n meddwl ddaeth y syniad am y rhaglen o Seland Newydd. Dwi’n cofio o’dd canolwr yr All Blacks ynddo fe - Mark Robinson fi’n credu, a ‘na le ddaeth e,” esboniodd.
Roedd cyn-chwaraewr rygbi Cymru, Roland Phillips, ymhlith y tîm o gyflwynwyr oedd yno ar y cychwyn. Mae'n cofio’i "nerfusrwydd" adeg y bennod gyntaf.
Ymunodd y cyflwynwyr Eleri Siôn ac Alex Jones â’r gyfres am gyfnod.
Sarra Elgan sydd bellach yn cyflwyno gyda Jonathan Davies a Nigel Owens. Mae'n dweud ei bod yn "joio pob munud.”
"Maen nhw fel dau frawd mawr annoying (a hen!), ond ni’n cael lot o sbort.”
Mae modd gwylio rhaglen Jonathan ar S4C am 21:30 nos Fawrth neu ar S4C Clic a BBC iPlayer.