Newyddion S4C

Apêl am wybodaeth yn dilyn ymosodiad ar ddefaid

Dafad wedi ei lladd gan gi

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth wedi ymosodiad ar ddefaid mewn cae yn Sir y Fflint.

Yn ôl Tîm Troseddau Cefn Gwlad y llu, mae'n ymddangos fod ci, neu gŵn, wedi mynd i mewn i'r cae rywbryd rhwng 9:00 ddydd Sadwrn, 7 Rhagfyr, a 11:00 ddydd Sul 8 Rhagfyr, ac wedi ymosod ar braidd o ddefaid, gan ladd dau ac anafu saith arall.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r ardal ger cylchfan yr A550 ger Penymynydd ddechrau'r mis. 

Dywedoddy Cwnstabl Dave Allen o’r Tîm Troseddau Cefn Gwlad “Dw i’n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a oedd yn teithio yn yr ardal, a sydd wedi gweld, neu sydd â recordiad ffilm o’r ymosodiad, i gysylltu â ni.”

“Unwaith eto, rydw i’n atgoffa perchnogion cŵn i'w cadw wrthlaw wrth gerdded mewn ardal lle mae da byw.”

“Yn ogystal â hyn, rydw i’n gofyn i’r bobl hyn i wirio nad oes lle i’w hanifeiliaid anwes ddianc o’u gerddi.”

“Mae digwyddiadau fel hyn yn ddinistriol i ffermwyr, ac mae’n gyfrifoldeb ar bawb i atal digwyddiadau fel hyn rhag digwydd.”

Mae modd cysylltu â’r heddlu drwy ffonio 101, neu drwy eu gwefan gan ddyfynnu: Q184827.

Llun Heddlu Gogledd Cymru 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.