Newyddion S4C

Carcharu dyn am droseddau rhyw yn y gogledd ddwyrain

23/12/2024
Cristopher Deakin

Mae dyn 55 oed wedi ei garcharu am 20 mis am droseddau rhyw yn Wrecsam a Sir y Fflint fis Mehefin a Hydref eleni. 

Cafodd Christopher Deakin o Groesoswallt ei weld yn cyflawni gweithred rywiol ar ei hun tra'n gyrru heibio plant a oedd yn cerdded i'r ysgol neu ar eu ffordd adref o'r ysgol. 

Plediodd yn euog i ddau achos o gyflawni gweithred rywiol ym mhresenoldeb plant, pan ymddangosodd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun.

Yn ogystal â'r ddedfryd o 20 mis o dan glo, bydd angen iddo hefyd fod ar y gofrestr troseddwyr rhyw am y deng mlynedd nesaf.  

Ar 10 Mehefin, roedd dwy ferch 11 oed yn cerdded i'r ysgol ar hydd ffordd y B5097 rhwng Penycae a Rhiwabon yn Wrecsam pan welodd y merched Deakin yn cyflawni gweithred rywiol wrth iddo yrru yn araf heibio'r ddwy mewn fan las.

Cafodd ei arestio y diwrnod canlynol a'i ryddhau ar fechnïaeth wrth i ragor o ymholiadau gael eu cynnal.   

Ar 9 Hydref, roedd dwy ferch arall yn cerdded adref o'r ysgol ym Mhenarlâg pan welodd y ddwy Deakin yn cyflawni gweithred rywiol yn ei gerbyd tra'n gyrru heibio'r ddwy. 

Y bore canlynol, dywedodd y ferch wrth yr heddlu iddi weld yr un fan ym Mhenarlâg yn gyrru tua chyfeiriad ysgol gynradd. 

Cafodd ei arestio y diwrnod hwnnw a'i gadw yn y ddalfa.          

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Andrew Vaughan: "Rwy'n canmol y pedair ddioddefwraig a'u teuluoedd am eu dewrder gydol yr ymchwiliad. 

"Mae'r canlyniad heddiw yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddod â throseddwyr rhyw o flaen eu gwell, a sicrhau fod dioddefwyr a phlant yn cael eu clywed a'u gwarchod". 

Llun: Heddlu Gogledd Cymru 

 

  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.