'Ma’n anodd i gal dynion i siarad': Sefydlu grŵp iechyd meddwl ym Mhen Llŷn
'Ma’n anodd i gal dynion i siarad': Sefydlu grŵp iechyd meddwl ym Mhen Llŷn
Rhybudd - mae cyfeiriad at hunanladdiad yn yr erthygl hon.
Er gwaethaf ymdrechion, mae stigma o hyd yn rhwystro nifer o ddynion rhag siarad am broblemau iechyd meddwl, yn ôl grwp newydd sydd wedi ei sefydlu ym Mhen Llŷn.
Nod ‘Caffi’r Ogia’ ydi cynnig gofod a chyfle i ddynion o bob oed siarad yn agored am eu heriau iechyd meddwl .
Yn ôl sylfaenydd y grŵp, Chris Rees o Forfa Nefyn, mae ‘na le o hyd i helpu dynion siarad am broblemau tebyg.
Mae’n gobeithio ehangu’r grŵp dros y misoedd nesaf er mwyn cynnig gweithgareddau a chyfleoedd newydd.
Am flynyddoedd mi fuodd Chris Rees, sy’n 50, â dibyniaeth alcohol ond wrth geisio gwella, mi sefydlodd grŵp ar-lein sy’n dod a phobl â dibyniaeth tebyg at ei gilydd.
Tra bod gan y grŵp yna filoedd o aelodau erbyn hyn, mae’n dweud iddo sylwi fod ‘na angen am grŵp yn y cnawd ar garreg yr aelwyd.
Ar ôl derbyn negesuon gan ddynion lleol mi sefydlodd ‘Cafi’r Ogia’ yn ddiweddar ac mae'r grŵp yn mynd o nerth i nerth.
“Mae merched yn reit dda am siarad am eu problemau... yn lot gwell na dynion”, meddai Chris Rees.
“Dros yr haf dwi di cael rhyw 5/6 o ddynion yn cysylltu efo problemau fel smocio gormod o canabis a phroblemau iechyd meddwl a rhai yn suicidal”.
“Da ni di cwrdd fyny ac mae di helpu dipyn ohonyn nhw”.
“Mae hwn di bod yn rhywbeth on isho neud ers blynyddoedd- cael grŵp jest i’r hogiau i ddod at ei gilydd i siarad mewn lle saff a siarad am ein problemau
“Ma’n anodd i gal dynion i siarad”, meddai.
Er bod y grŵp yn weddol newydd y gobaith hir dymor ydi trefnu digwyddiadau awyr agored a gwirfoddoli fel cerdded, garddio a nofio.
Un sy’n dod i’r grwp ydi Ethan Evans sy’n 22 oed ac mi dreuliodd gyfnod yn yr ysbyty eleni gydag anhwylder iechyd meddwl.
Wrth drafod ei brofiad, mae’n dweud iddo weld canfod help proffesiynol ar brydiau yn heriol gyda gwasanaethau ‘dan bwysau ond yn dweud bod Caffi’r Ogia wedi cynnig cyfle newydd iddo.
“Dwi’n gwybod bod o’n gallu bod yn anodd cael help”, meddai.
“A hefyd doeddwn i ddim eisiau siarad oherwydd oni’n teimlo bo fi’n cael fy mhwshiad i bob cyfeiriad heb yr help oeddwn i eisiau”.
“Swni’n licio deud does na ddim stigma... a dwi’n meddwl bod ni’n dechrau sylwi fel dynion a fel cymdeithas nad ydan ni’n siarad”.
Mae’n dweud fod y grŵp wedi cynnig cefnogaeth holl bwysig iddo ar ei daith at wella.
Neges debyg sydd gan William Hughes Jones sy’n 50 oed ac yn dweud iddo ddioddef gyda’i iechyd meddwl ers yn blentyn.
Ar ôl tor perthynas yn gynharach eleni, mi benderfynodd ofyn am help a chanfod Caffi’r Ogia yn lleol.
“O'n i di bod yn smocio canabis ers 35 o flynyddoedd”, meddai.
“Nesh i sylweddoli bod gennai broblem canabis a bod fi angen help i stopio”.
“Mae’r grŵp di bod yn lot o help am bo fi’n byw ar ben fy hun o'n i’n hel meddylia a ddim rhai neis”.
“Ond ma dod yma bob nos Fawrth mae’n helpu fi lot, mae’n cael fi allan o’r tŷ”.
“Ma’n cal fi i siarad efo pobl sydd wedi bod yn yr un sefyllfa”.
Megis dechrau mae Caffi’r Ogia ond gobaith Chris Rees yn y pendraw ydi cynnig mwy o weithgareddau ac ehangu’r ddarpariaeth.
“Dio ddim jest am ffocysu ar y problemau ond 'da ni eisiau clywed gan bobl sy’n byw bywyd positif hefyd”.