Newyddion S4C

Merch 9 oed yn 'hapus' bod adref dros y Nadolig ar ôl chwe mis yn yr ysbyty

Merch 9 oed yn 'hapus' bod adref dros y Nadolig ar ôl chwe mis yn yr ysbyty

Mae merch 9 oed sydd wedi byw â chanser prin yn dweud nad yw’n gallu “disgrifio fy hapusrwydd” wrth iddi gael dathlu’r Nadolig adref eleni ar ôl treulio chwe mis yn yr ysbyty.

Fe gafodd Kathryn o Lanfair-ym-Muallt ym Mhowys ddiagnosis o Burkitt lymphoma, sef math o ‘non-Hodgkin lymphoma’ ar 7 Ionawr 2024. 

Dim ond tua 2-4 o blant sydd yn cael diagnosis o’r math yma o ganser yng Nghymru'r flwyddyn. Mae'r driniaeth yn gallu bod yn “ddwys iawn.” 

Roedd yn rhaid i Kathryn dreulio chwe mis yn byw yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru yng Nghaerdydd er mwyn derbyn triniaeth cemotherapi yn ystod y cyfnod hwn. 

Image
Kathryn
Kathryn yn sâl yn yr ysbyty

Cafodd Kathryn, sydd yn ddisgybl yn adran Gymraeg Ysgol Llanfair-ym-Muallt, wybod bod ei chyflwr wedi gwella ddiwrnod ar ôl ei nawfed pen-blwydd.

Gyda'r Nadolig yn agosáu mae Kathryn a’i theulu yn dweud eu bod yn “edrych ymlaen yn fawr” at ddathlu gyda’i gilydd yn ôl adref.

“Dwi’n hapus iawn i bod yn adref. Dwi’n gweld fy ffrindiau, maen nhw’n hapus bod dwi’n nôl, dwi’n hapus bod dwi’n nôl,” meddai Kathryn wrth siarad â Newyddion S4C.

“Mae jyst yn relief bod dwi’n adref.”

Image
Kathryn
Kathryn yn dathlu gyda nyrsys ar ôl gorffen ei thriniaeth ganser

'Ail adref'

Mae Kathryn yn dweud bod treulio cymaint o’i blwyddyn yn yr ysbyty wedi bod yn heriol iddi. Fe wnaeth hi hefyd dreulio y rhan fwyaf o'r Nadolig diwethaf yn dioddef gyda phoen yn ei chefn ac yn chwydu.

“Pan ti’n mewn yr ysbyty weithiau ti jyst yn meddwl, ‘Dwi’n adref. Dwi’n adref mae popeth ddim wedi digwydd. 

“Roedd yr ysbyty, am y chwe mis, roedd e’n fel ail adref. 

“Roedd e’n ofnus achos roeddwn i’n gwybod roeddwn i’n sâl iawn ond roeddwn i’n gwybod bod mae popeth yn mynd i bod yn iawn yn y diwedd.” 

Ond roedd cyfeillgarwch staff a chleifion eraill wedi helpu lleddfu rhai o’i phryderon ac fe wnaeth hi fwynhau ei chyfnod yno hefyd, meddai. 

“Roedd e’n hwyl oherwydd roedd y nyrsys ar y ward yn ffrindiau – maen nhw’n ffrindiau i ni.”

Image
Kathryn a'i mam
Kathryn gyda'i mam, Jayne Lyons

'Rhyddhad'

Fe dreuliodd rhieni Kathryn, Jayne ac Ed Lyons y chwe mis yn yr ysbyty wrth ochr eu merch. 

Cafodd un rhiant wely yn ystafell ei merch tra roedd y llall yn treulio’r noson am ddim mewn llety arbennig gan elusen canser plant LATCH, sydd y tu mewn i’r ysbyty. 

“Roedd e fel cael ail deulu,” meddai Jayne Lyons. “Dyna oedd ein bywyd normal ni.” 

Mae’n canmol yr holl gefnogaeth a gafodd ei theulu yn yr ysbyty gan ddweud bod gwasanaeth LATCH yn hollbwysig i bobl mewn sefyllfaoedd tebyg. 

Yn ôl prif weithredwr LATCH, Menai Owen-Jones nod yr elusen yw sicrhau bod plant a’u teuluoedd yn teimlo “mor gyfforddus â phosibl.” 

Mae hynny hyd yn oed yn fwy pwysig yn ystod cyfnod y Nadolig meddai. 

Mae Kathryn a’i theulu bellach wedi cael dychwelyd adref ac maen nhw’n edrych ymlaen at dreulio amser gyda’i gilydd a’u hanwyliaid. 

“Y Nadolig hwn mae ‘na ryddhad wrth i ni gael dod at ein gilydd fel teulu a threulio amser gyda’n gilydd,” medd Jayne Lyons. 

Image
Kathryn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.