Dim her gyfreithiol wedi gwariant o £2.6 miliwn ar do canolfan ym Môn
Cyhoeddodd Cyngor Sir Ynys Môn na fyddan nhw'n cyflwyno her gyfreithiol i geisio hawlio arian yn ôl, wedi gwariant o £2.6 miliwn ar do newydd Canolfan Addysg y Bont yn Llangefni.
Daeth y gwaith o drwsio’r to i ben ym mis Ionawr 2023, ac yn ôl yr awdurdod, cafodd yr arian ei ryddhau o gronfa wrth gefn y cyngor.
Mae’r ganolfan yn darparu addysg arbenigol i ddisgyblion rhwng tair a 19 oed, ac yn 2016, cafodd gymeradwyaeth arbennig oherwydd rhinweddau amgylcheddol yr adeilad.
Cafodd y gwaith o ddatblygu Canolfan Addysg y Bont ei gwblhau ym mis Chwefror 2014 yn wreiddiol.
Cafodd ei hadeiladu gan Wynne Construction a'i hagor yn swyddogol fis Ebrill 2014.
Ond cafodd llawr cyntaf yr adeilad ei gau dros dro ym mis Gorffennaf 2021 ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod angen atgyweirio'r to.
Cyngor cyfreithiol
Cyhoeddodd y cyngor ddydd Llun na fyddan nhw'n cyflwyno her gyfreithiol i geisio hawlio arian yn ôl, ar ôl derbyn cyngor arbenigol.
Dywedodd eu datganiad: "Amlinellodd adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor Llawn yn gynharach y mis hwn yr opsiynau cyfreithiol posibl wrth i’r cyngor geisio hawlio’r costau terfynol o newid y to ar yr ysgol arbennig yn Llangefni.
"Penodwyd cyfreithwyr allanol arbenigol er mwyn cynghori’r cyngor ar y gobeithion o allu hawlio’r arian hwn yn ôl ac fe gomisiynwyd tystiolaeth arbenigol annibynnol.
"Nid oedd y dystiolaeth arbenigol derfynol yn cefnogi achos y cyngor yn ddigonol ac fe gynghorwyd i beidio â chychwyn achos cyfreithiol drwy’r llysoedd gan y byddai achos aflwyddiannus yn golygu costau cyfreithiol sylweddol."
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Dylan J. Williams, “O ganlyniad i dystiolaeth, barn arbenigol a chyngor cyfreithiol, cytunodd y cyngor llawn â’r argymhelliad na ddylid parhau ag unrhyw achos i geisio hawlio unrhyw gostau am newid to’r ysgol.”
“Mae’r dystiolaeth bresennol yn dangos y byddai’r tebygolrwydd o lwyddo mewn achos cyfreithiol yn llai na 50% a gallai parhau â’r achos yn y llys arwain at gostau ychwanegol sylweddol.”