Newyddion S4C

Dyn 53 oed wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn y môr

Aberogwr

Mae dyn 53 oed wedi marw ar ôl iddo fynd i drafferthion yn y môr yn Aberogwr ym Mro Morgannwg.  

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 10.30 fore dydd Sul Rhagfyr 22.

Roedd Bad Achub yr RNLI a hofrennydd Gwylwyr y Glannau hefyd yn rhan o'r ymdrechion i ddod o hyd i'r dyn.

Fe wnaeth aelodau'r RNLI ddod o hyd iddo, ond roedd wedi marw.

Mae Heddlu'r De yn dweud bod ei deulu wedi cael gwybod a'r crwner.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.