Y 'Cymro balch': Cynnal angladd Terry Griffiths
Mae angladd cyn bencampwr Snwcer y Byd, Terry Griffiths wedi cael ei gynnal yn Llanelli.
Fe fuodd Mr Griffiths, o Lanelli, farw ar ddydd Sul 1 Rhagfyr yn 77 oed, ar ôl cyfnod hir o fyw gyda dementia.
Roedd cannoedd o bobl yn bresennol yn y gwasanaeth yn Amlosgfa Llanelli brynhawn dydd Llun gan gynnwys mawrion o'r byd snwcer fel Mark Williams a Dennis Taylor.
Cyn y gwasanaeth, teithiodd yr arch drwy ganol Llanelli, gan aros am gyfnod byr y tu allan i Ganolfan Snwcer Terry Griffiths yn y dref.
Wrth gyhoeddi ei farwolaeth y mis hwn, dywedodd ei deulu: "Yn Gymro balch, cafodd Terry ei eni yn Llanelli. Fe ddaeth a balchder i'r dref a nawr mae wedi dod o hyd i hedd yn Llanelli."
Cafodd Terry Griffiths ei eni yn 1947 ac roedd yn un o oreuon y byd snwcer.
Enillodd Bencampwriaeth y Byd yn y Crucible yn 1979. Fo oedd y Cymro cyntaf i ennill y gystadleuaeth a hon oedd ei ail gystadleuaeth yn unig fel chwaraewr proffesiynol.
Fe wnaeth gwblhau'r 'goron driphlyg' yn y gamp drwy ennill y Masters a Phencampwriaeth y DU hefyd.
Roedd Griffiths ar frig y gamp yn ystod yr 1980au a dechrau’r 1990au. Fe wnaeth o gyrraedd rownd yr wyth olaf ym Mhencampwriaeth y Byd am naw mlynedd yn olynol, a chyrraedd y rownd derfynol eto yn 1988.
Penderfynodd ymddeol o chwarae ar ôl colli yn rownd gyntaf Pencampwriaeth y Byd i Mark Williams yn 1997.
Fe wnaeth ei gyfraniad i'r byd snwcer barhau wedi iddo orffen chwarae, pan benderfynodd ddechrau hyfforddi.
Roedd o wedi hyfforddi rhai o'r chwaraewyr snwcer gorau erioed fel Stephen Hendry, Mark Williams a Mark Allen.