Newyddion S4C

Dynes wedi marw ar ôl cael ei rhoi ar dân yn Efrog Newydd

efrog newydd.png

Mae dyn wedi ei arestio yn Efrog Newydd mewn cysylltiad â marwolaeth dynes a gafodd ei rhoi ar dân mewn trên tanddaearol yn y ddinas.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu Jessica Tisch fod y digwyddiad ddydd Sul yn un o'r "troseddau gwaethaf y gallai person ei gyflawni yn erbyn person arall."

Dywedodd fod y ddynes yn llonydd ar y trên oedd yn teithio i ardal Brooklyn pan ddaeth dyn tuag ati a rhoi ei dillad ar dân. 

Fe fuodd farw'r ddynes yn y fan a'r lle. 

Ychwanegodd Ms Tisch fod y dyn wedi ei arestio wedi i griw o ddisgyblion ysgol uwchradd roi gwybod i'r heddlu wrth iddo adael yr orsaf. 

Doedd dim cyfathrebiad rhwng y ddau berson cyn yr ymosodiad. Mae'r heddlu yn credu nad oedd y ddau yn adnabod ei gilydd. 

Mae swyddogion yn parhau i geisio adnabod y ddynes a fu farw a'r cymhelliad y tu ôl i'r ymosodiad. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.