Disgwyl 'gwell amodau' dros y Nadolig wedi cyfnod o dywydd gwael
Mae disgwyl gwell amodau dros wythnos y Nadolig wedi i dywydd gwael achosi trafferthion i gynlluniau teithio pobl ar draws y wlad.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhagweld "Nadolig llwyd" gyda rhai cyfnodau braf.
Daw wedi rhybudd melyn am wynt i rannau helaeth o'r DU ddydd Sul.
Roedd rhybudd melyn am wynt mewn grym ar gyfer Cymru gyfan ddydd Sul.
Bu'n rhaid cau Pont Hafren ar yr M48 i’r ddau gyfeiriad am gyfnod oherwydd y gwyntoedd cryfion.
Dywedodd Maes Awyr Heathrow fod “nifer fechan o hediadau” wedi’u canslo ddydd Sadwrn oherwydd “gwyntoedd cryfion a chyfyngiadau gofod awyr”.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates fod "ymdrechion digynsail" yn cael eu gwneud er mwyn cael pobl adref i Iwerddon cyn y Nadolig wedi i Borthladd Caergybi gau yn sgil Storm Darragh.
Nid oes disgwyl i'r porthladd ail-agor tan 15 Ionawr ar y cynharaf. Ond mae pennaeth gwasanaeth post gwladol Gweriniaeth Iwerddon wedi rhybuddio y gallai fod ar gau nes mis Mawrth.
Mae pob gwasanaeth fferi rhwng Caergybi a Dulyn wedi eu canslo ar hyn o bryd, gan effeithio ar gynlluniau teithio miloedd yn ystod cyfnod y Nadolig.
Dywedodd Mr Stakes fod llongau ychwanegol wedi hwylio i Iwerddon dros y penwythnos.