Newyddion S4C

Menyw 87 oed wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad ar stryd fawr

Tonyrefail

Mae menyw 87 oed wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad â char ar stryd fawr.

Dywedodd Heddlu’r De fod Honda CRV du wedi gwrthdaro â cherddwr ar Stryd Fawr Tonyrefail yn Rhondda Cynon Taf.

Mae’r heddlu bellach yn apelio am lygaid dystion neu unrhyw un sydd â fideo CCTV neu gamera dashfwrdd.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda’r heddlu ar-lein neu dros y ffon gan ddyfynnu cyfeirnod contact police quoting reference 2400418843.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.