Newyddion S4C

Apêl am dystion ar ôl i rywrai dorri i mewn i adeilad elusen yn Llanberis

21/12/2024
Stryd y Frachnad

Mae’r heddlu yn ymchwilio gan ddweud bod rywrai wedi torri i mewn i adeilad elusen yn Llanberis.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd eu bod nhw’n apelio am dystion ar ôl byrgleriaeth yn adeilad y Lleng Brydeinig Frenhinol ar Stryd y Farchnad y dref.

Digwyddodd yn ystod oriau mân bore ddydd Gwener, medden nhw.

Ychydig ar ôl 01.00 o’r gloch derbyniodd yr heddlu adroddiad bod “troseddwyr anhysbys” wedi torri ffenestr a chael mynediad i’r adeilad. 

Doedden nhw ddim yn credu bod unrhywbeth wedi’i ddwyn o’r lleoliad.

Mae swyddogion yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Meddai’r Ditectif Rhingyll Eifion Patchett: “Rydym yn ymwybodol o’r fideo teledu cylch cyfyng sy’n cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol sydd yn dangos pedwar unigolyn tu allan I’r lleoliad, ac rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth allai ein cynorthwyo ni gyda’r ymchwiliad i gysylltu ar unwaith.

“Mae ein ymholiadau’n parhau, a hoffwn ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cysylltu â ni.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu a swyddogion drwy’r wefan neu drwy ffonio 101 gan roi’r rhif cyfeirnod 24001066129. 

Gellir hefyd gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Llun: Stryd y Frachnad

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.