Galwad frys ar i Lywodraeth Cymru 'ddiogelu' gwasanaethau gofal diwedd oes

Gofal diwedd oes

Mae galwad ar Lywodraeth Cymru ac arweinwyr iechyd i "ddiogelu" gwasanaethau diwedd oes.

Daw yr alwad gan Hospice UK wrth i ffigyrau newydd ddangos fod disgwyl i wasanaethau ostwng ar draws Cymru heb newid.

Yn y flwyddyn ddiwethaf mae hosbisau ar Ynys Môn a Sir Benfro wedi cau oherwydd trafferthion cyllid.

Hefyd mae nifer y gwlau neu’r gwasanaethau ehangach yn lleihau mewn 30% o hosbisau Cymru  meddai Hospice UK.

Yn ôl rheolwr polisi Hospice UK, Matthew Brindley, bydd llai o fynediad at ofal diwedd oes "angenrheidiol" i bobl os na fydd y system yn cael ei newid yn fuan. 

"Mae hosbisau yn gonglfaen system gofal a iechyd Cymru" meddai.

"Maen nhw'n darparu gofal clinigol hanfodol sydd yn sicrhau bod gan bobl urddas ar ddiwedd eu bywyd.

"Heb weithredu ar frys, mae'n bosib byddwn yn edrych ar ddyfodol lle mae gwasanaethau yn cael eu gostwng ymhellach... a bydd llai o fynediad at ofal diwedd oes sydd yn angenrheidiol.

'Deall yr heriau'

"Dyw gwasanaethau hosbis ddim yn opsiynol. Mae cymorth ariannol dros yr wythnosau a misoedd nesaf mynd i fod yn hanfodol os ydym am wneud yn siŵr y gall hosbisau fod yno i bawb sydd eu hangen.”

Ychwanegodd ei fod yn gwerthfawrogi cymorth Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, ond bod angen gwneud mwy i ddiogelu gwasanaethau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "deall yr heriau" mae hosbisau yn wynebu.

"Rydym yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae hosbisau yn ei wneud i ofal diwedd oes ac yn gweithio gyda nhw i ddeall yn well yr heriau maent yn wynebu.

"Mae'r buddsoddiad mewn hosbisau wedi cynyddu'n sylweddol dros dymor presennol y Senedd, gan gynnwys £5.2m ychwanegol bob blwyddyn a mwy na £9.5m mewn grantiau untro i helpu'r sector i dalu costau cynyddol a chynnal gwasanaethau hanfodol.

"Mae gwaith ar ddull comisiynu hosbisau newydd yn parhau er mwyn sicrhau mynediad teg, cynaliadwyedd hirdymor, a gofal o ansawdd dda ledled Cymru."

Image
Hosbis Dewi Sant Ysbyty Penrhos Stanley
Bu rhaid cau Hosbis Dewi Sant Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaerbybi ym mis Hydref 2025.

 

'Gweithredu nawr'

Mae 20,000 o oedolion a phlant ledled Cymru yn cael eu heffeithio gan salwch terfynol pob blwyddyn yn ôl Hospice UK.

Yn y 25 mlynedd nesaf mae disgwyl i'r ffigwr godi 25%, gyda 25,000 yn cael eu heffeithio.

O'r 14 hosbis gwirfoddol yng Nghymru mae 70% ohonynt yn dweud bod y cynnydd mewn costau byw yn debygol o arwain at lai o wlâu.

30% o gyllid yr hosbisau hyn sydd yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, sef £3 miliwn ar gyfer pob un o'r hosbisau.

Mae gweddill yr arian yn dod trwy roddion gan elusennau neu ymgyrchoedd codi arian.

Heb wella cyllid bydd Llywodraeth Cymru yn "colli cyfle" i sicrhau bod hosbisau ar gael i'r rhai sydd eu hangen.

"Rydym mewn sefyllfa lle mae costau dyddiol rhedeg ein gwasanaethau hanfodol wedi codi i sefyllfa lle mae rhoddion gan elusennau ddim yn ddigon," meddai cadeirydd Hosbisau Cymru, Liz Booyse.

"Dylai gofal hanfodol, arbenigol gan hosbisau gael yr opsiwn o gael eu hariannu'n llawn gan Lywodraeth bresennol a dyfodol Cymru.

"Mae gennym gyfle i sicrhau y bydd pobl yn gallu cael mynediad at y cymorth hwn am amser hir i ddod a gwella i helpu pobl â salwch mwy cymhleth - ond mae'n rhaid i ni weithredu nawr.

"Mae angen i bawb dderbyn nad yw'r model ariannu presennol ar gyfer ein hosbisau yn gweithio ac nad yw'n gynaliadwy."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.