'Newyddion mawr': Cyhoeddi cyllid i ddwy fferm wynt oddi ar arfordir Cymru

Jo Stevens / fferm gwynt

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod dwy fferm wynt oddi ar arfordir Cymru wedi sicrhau cyllid i gyflenwi ynni i'r grid cenedlaethol.

Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd yn datblygu prosiect Awel y Môr oddi ar arfordir Sir Ddinbych a phrosiect Erebus oddi ar arfordir Sir Benfro.

Daw'r newyddion wrth i Lywodraeth y DU sicrhau record o 8.4 gigawat (GW) o bŵer gwynt ar y môr ar gyfer eu cynlluniau ynni gwyrdd.

Mae'r rownd ddiweddaraf o gontractau yn cynnwys chwe phrosiect newydd wedi'u lleoli oddi ar yr arfordir mewn gwahanol rannau o'r DU.

Mae prosiectau tu allan i Gymru yn cynnwys Berwick Bank ym Môr y Gogledd – un o'r ffermydd gwynt mwyaf yn y byd.

Mae dau brosiect arall yn Dogger Bank South, oddi ar arfordir Sir Efrog, a Norfolk Vanguard, oddi ar arfordir Dwyrain Anglia.

Mae'r contractau'n cael eu hystyried yn gam pwysig wrth gyflawni ymrwymiad Llywodraeth y DU i ostwng biliau drwy ddarparu pŵer glân erbyn 2030.

Dywedodd yr Adran Diogelwch Ynni a Net Sero y byddai'r prosiectau newydd yn cynhyrchu digon o drydan i bweru 12 miliwn o gartrefi.

Mae'r adran hefyd yn dweud y bydd y prosiectau'n cefnogi 7,000 o swyddi ac yn helpu'r DU i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Mae pris ynni gwynt ar y môr 40% yn is na chost adeiladu a gweithredu gorsaf bŵer nwy newydd, yn ôl metrig allweddol yn y diwydiant.

'Newyddion mawr'

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, bod y cyhoeddiad yn "newyddion mawr" i Ogledd Cymru a Sir Benfro.

"Mae’n bleidlais enfawr o hyder yn niwydiant ynni glân Cymru sydd eisoes yn darparu swyddi medrus iawn â chyflog da ar gyfer y dyfodol gyda’r potensial i ddod â miloedd mwy," meddai mewn datganiad.

"Mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda buddsoddwyr i ddatblygu pŵer glân cartref a fydd yn sicrhau ein cyflenwad ynni ac yn gostwng biliau am byth. 

"Bydd y prosiectau newydd hyn yn y moroedd oddi ar arfordir Cymru yn ein helpu i gyflawni’r nodau hynny."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni, Ed Miliband: "Gyda’r canlyniadau hyn, mae Prydain yn adennill rheolaeth dros ein sofraniaeth ynni.

"Mae hon yn fuddugoliaeth hanesyddol i’r rhai sydd eisiau i Brydain sefyll ar ein traed ein hunain, gan reoli ein hynni ein hunain yn hytrach na dibynnu ar farchnadoedd sy'n cael eu rheoli gan betrwladwriaethau ac unbeniaid."

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.