'Ymateb cryf iawn' os y bydd protestwyr yn cael eu dienyddio medd Trump

Y difrod wedi'r protestiadau yn Iran

Mae Donald Trump wedi dweud y bydd yna "ymateb cryf iawn" os bydd Iran yn dienyddio protestwyr yn y wlad.

Yn ôl mudiadau hawliau dynol mae mwy na 2,400 o brotestwyr wedi eu lladd yn barod gan awdurdodau Iran.

Wrth siarad gyda CBS News dywedodd Arlywydd America: "Os byddan nhw yn eu crogi nhw, fe newch chi weld rhai pethau...Fe wnawn ni ymateb yn gryf iawn os byddan nhw yn gwneud y fath beth."

Ymhlith y rhai sydd fod i gael eu dienyddio mae Erfan Soltani, dyn 26 oed o Fardis sydd i'r gorllewin o Tehran.

Mae ei deulu wedi dweud wrth y BBC bod disgwyl iddo gael ei ddienyddio ddydd Mercher. Yn ôl ei berthnasau fe wnaeth llys Iranaidd orchymyn dedfryd o farwolaeth "trwy broses gyflym iawn, o fewn dim ond dau ddiwrnod." 

Fe ddywedodd Awyar Shekhi, sy'n cynrychioli'r mudiad hawliau dynol Hengaw wrth y BBC nad ydyn nhw erioed wedi gweld "achos yn cael ei weithredu mor gyflym". 

Mae swyddog Iranaidd wedi dweud wrth wasanaeth newyddion Reuters bod 2,000 o bobl wedi eu lladd ond bod "terfysgwyr" i feio. 

Yn gynharach fe ddywedodd Trump ei fod eisiau darganfod y "ffigyrau cywir" ar gyfer y bobl sydd wedi eu lladd yn y protestiadau. 

"Mae'r lladd yn edrych yn rhif arwyddocaol ond dydyn ni ddim yn gwybod hynny i sicrwydd eto," meddai wrth newyddiadurwyr yn y Tŷ Gwyn. 

Dywedodd unwaith y byddan nhw yn gwybod y niferoedd y byddan nhw yn "gweithredu yn gyfatebol". 

Llun: Reuters 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.