Cynllun cardiau adnabod digidol ddim am fod yn orfodol
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi'r gorau i gynllun a fyddai'n gorfodi pobl i gael cardiau adnabod digidol i allu gweithio yn y DU.
Roedd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, wedi dweud y llynedd na fyddai modd i bobl weithio ym Mhrydain yn y dyfodol oni bai bod ganddynt gerdyn adnabod digidol.
Ond erbyn hyn bydd hi'n opsiynol i gofrestru i gael cerdyn adnabod. Bydd gwirio bod gan berson hawl i weithio yn y DU yn dal i ddigwydd yn ddigidol.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, wedi dweud bod y polisi wedi bod yn un "ofnadwy".
Pan gafodd y polisi ei lansio ym mis Medi'r llynedd, roedd yna rywfaint o wrthwynebiad. Fe wnaeth bron i dair miliwn o bobl arwyddo deiseb seneddol yn gwrthwynebu cyflwyno cardiau adnabod digidol.
Roedd rhai ASau Llafur hefyd yn bryderus am yr agweddau gorfodol o'r cynnig gwreiddiol.
Pan wnaeth Llywodraeth y DU gyflwyno'r polisi gyntaf, eu dadl nhw oedd y byddai cardiau adnabod digidol yn gwneud hi yn haws i gyfyngu ar fewnfudwyr sydd yn gweithio yn anghyfreithlon.
Ond bydd y pwyslais nawr ar y ffaith y byddai'r cardiau yn gallu bod yn ddefnyddiol i'r cyhoedd pan maent angen mynediad at wasanaethau cyhoeddus.
Dyma'r cyhoeddiad diweddaraf gan y llywodraeth eu bod am newid polisi ers iddyn nhw ddod i rym.
Ymhlith y troeon pedol eraill mae newidiadau budd-daliadau lles a newidiadau sylweddol i'r cynllun treth etifeddiant.
Llun: Yui Mok/PA